Bydd mwy o athletwyr o Gymru’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd eleni nag sydd wedi gwneud ers dros ganrif.
Fe fydd 31 o athletwyr o Gymru’n rhan o dîm Prydain yn y Gemau yn Paris.
Dim ond unwaith o’r blaen, yn 1908 – pan oedd y gemau yn Llundain – mae mwy o athletwyr o Gymru wedi cymryd rhan.
Fe wnaeth 32 o Gymry gystadlu bryd hynny, ond roedd gan Gymru ei thîm hoci ei hun, ddaeth yn drydydd.
Bydd seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn cael ei chynnal heno (nos Wener, Gorffennaf 26), a hynny ar hyd afon Seine – y tro cyntaf i’r seremoni agoriadol gael ei chynnal tu allan i stadiwm.
Fe fydd dros 100 o gychod yn cario tua 10,500 o athletwyr ar hyd y Seine, a bron i 600,000 o bobol yn gwylio ar y lan.
Yr athletwyr
Athletau
Jeremiah Azu o Gaerdydd – ras 100m y dynion, ras gyfnewid 4x100m y dynion.
Paffio
Rosie Eccles o Gil-y-coed, Sir Fynwy – 66kg menywod
Seiclo
Elinor Barker o Gaerdydd – tîm Cwrso Carfan (pursuit) y menywod, madison y menywod
Emma Finucane o Gaerfyrddin – ras wib y menywod, tîm ras wib y menywod, keirin y menywod
Ella Maclean-Howell o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf – beicio mynydd trawsgwlad y menywod
Anna Morris o Gaerdydd – tîm Cwrso Carfan y menywod, ras ffordd y menywod
Jess Roberts o Gaerfyrddin – tîm Cwrso Carfan y menywod
Josh Tarling o Aberaeron – ras yn erbyn y cloc y dynion, ras ffordd y dynion
Stevie Williams o Aberystwyth – ras ffordd y dynion
Gymnasteg
Ruby Evans o Gaerdydd – gymnasteg artistig y menywod
Hoci
Jacob Draper o Gwmbrân – tîm hoci’r dynion
Gareth Furlong o Gaergrawnt – tîm hoci’r dynion
Rupert Shipperley o Rydychen – tîm hoci’r dynion
Sarah Jones o Gaerdydd – tîm hoci’r menywod
Rhwyfo
Matt Aldridge o Dorset – rhwyfo fesul pedwar y dynion
Tom Barras o Staines (cymhwysodd i gystadlu dros Gymru pan oedd yn y brifysgol) – sgwlio fesul pedwar y dynion
Harry Brightmore o Gaer – rhwyfo fesul wyth y dynion
Eve Stewart o Amsterdam – rhwyfo fesul wyth y menywod
Graeme Thomas o Preston – sgwlio fesul pedwar y dynion
Becky Wilde o Taunton – sgwlio fesul dwy
Ollie Wynne-Griffith o Guildford – rhwyfo fesul pâr y dynion
Rygbi Saith Bob Ochr
Jasmine Joyce o Dyddewi – tîm rygbi saith bob ochr y menywod
Hwylio
Micky Beckett o Solfach, Sir Benfro – dinghy’r dynion
Chris Grube o Gaer – dinghy cymysg
Nofio
Kieran Bird o Bicester – 400m nofio rhydd y dynion
Medi Harris o Borthmadog – 100m dull cefn y menywod, ras gyfnewid nofio rhydd 4x200m y menywod
Daniel Jarvis o Resolfen – 1500m nofio dull rhydd y dynion
Hector Pardoe o Wrecsam – nofio marathon y dynion
Matt Richards o Droitwich – 100m nofio dull rhydd y dynion, 200m nofio dull rhydd y dynion, ras gyfnewid nofio dull rhydd 4x100m y dynion, ras gyfnewid nofio dull rhydd 4x200m y dynion, medli 4x100m y dynion
Tennis bwrdd
Anna Hursey o Gaerfyrddin – gemau sengl y menywod, gemau dwbl cymysg
Taekwondo
Jade Jones o’r Fflint – -57kg y menywod
Athletwyr wrth gefn
Lowri Thomas (seiclo trac), Megan Barker (seiclo trac), Kayleigh Powell (rygbi saith bob ochr).
‘Ysbrydoli pobol ifanc’
Wrth ddymuno’r gorau i’r athletwyr, dywed Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, eu bod nhw am roi “sylw arbennig i’r athletwyr o Gymru – y nifer fwyaf ers dros 100 mlynedd”.
“Pob lwc i’n holl athletwyr sy’n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Paris,” meddai.
“Mae pob un ohonoch wedi gweithio’n galed dros ben i fod yno, gan gyrraedd y brig yn eich camp.
“Rydych chi’n ysbrydoli ein pobol ifanc.
“Llongyfarchiadau.
“Chi yw Sêr Olympaidd Cymru, eleni ac am byth.”