Mae Dai Greene wedi’i benodi’n Bennaeth Gwibio a Chlwydi Prifysgol Loughborough, gan ddweud ei fod yn “edrych ymlaen at bennod newydd” yn ei yrfa.

Mae’r Cymro’n bencampwr byd, Ewrop a’r Gymanwlad.

Daeth i’r brig yn y 400m dros y clwydi yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010, a Phencampwriaeth y Byd yn 2011.

Enillodd e’r fedal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop yn 2011 hefyd, ac roedd yn gapten ar dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, lle cyrhaeddodd e rownd derfynol y 400m dros y clwydi a’r ras gyfnewid 4x400m.

Yn ystod ei yrfa, cafodd ei hyfforddi gan Malcolm Arnold, oedd hefyd wedi hyfforddi Colin Jackson ac Andrew Pozzi, a Benke Blomkvist, gafodd ei enwi’n Hyfforddwr y Flwyddyn y BBC yn y gorffennol.

Yn rhinwedd ei swydd newydd, bydd Dai Greene yn hyfforddi’r grwpiau 400m a 400m dros y clwydi, sy’n cynnwys Alex Haydock-Wilson, sydd wedi ennill medal efydd yn y Gemau Olympaidd ddwywaith.

Bydd Greene hefyd yn gyfrifol am reoli’r rhaglen wibio a chlwydi dan do ac awyr agored.

‘Gweledigaeth’

Dywed Dai Greene fod y swydd newydd yn “ddechrau pennod newydd gyffrous” yn ei yrfa.

“Dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o dîm perfformio angerddol a deinamig, a gweithio gydag athletwyr ifainc dawnus,” meddai.

“Gan dynnu ar fy ngwybodaeth a’m profiad o’m hamser ar lefel ucha’r gamp, dw i’n anelu at greu awyrgylch sy’n cefnogi athletwyr, gan eu galluogi nhw i fynnu ac i wireddu eu potensial.”

Mae Femio Akinsanya, Cyfarwyddwr Athletau Prifysgol Loughborough, wedi canmol gweledigaeth Dai Greene.

“Yn dilyn proses recriwtio gystadleuol a chadarn, rydyn ni wrth ein boddau o gael croesawu Dai i’r tîm,” meddai.

“Roedd y weledigaeth oedd ganddo fe ar gyfer y rhaglen, ei gynllun pum mlynedd ar gyfer gwibio yn Loughborough, a’r ffordd mae’n bwriadu gweithio gyda’n tîm hyfforddwyr, arweinwyr digwyddiadau ac ymarferwyr wedi creu argraff arnon ni.

“Bydd y perthnasau cryf mae’n eu cynnal gyda’i gyn-hyfforddwyr, mentoriaid a chyd-athletwyr Prydain yn datblygu rhaglen athletau sydd eisoes ar y blaen ar draws prifysgolion, ac rydyn ni wrth ein boddau o gael Dai gyda ni.”