Mae Mason Grady allan o gemau rygbi Cymru yn yr hydref.
Bydd yn rhaid i’r canolwr gael llawdriniaeth ar ei ffêr.
Daw hyn ar ôl iddo fe orfod gadael y cae yn ystod y golled o 24-19 yn erbyn Ffiji yng Nghaerdydd.
Roedd cryn dipyn o ddryswch pan adawodd e’r cae, wrth i’r maswr Sam Costelow ddod i’r cae yn eilydd.
Ar ôl y gêm, cyfaddefodd y prif hyfforddwr Warren Gatland fod camgymeriad wedi bod, ac mai Ellis Bevan ddylai fod wedi dod i’r cae yn ei le.
Bydd Cymru’n herio Awstralia nesaf, gan obeithio dod â’u rhediad o ddeg colled yn olynol i ben – dyma’r rhediad gwaethaf erioed i unrhyw hyfforddwr ar dîm Cymru.