Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi ymadawiad Nigel Walker, eu Cyfarwyddwr Rygbi Gweithredol.
Daw’r penderfyniadau ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gynnal adolygiad diwedd blwyddyn o nifer o agweddau.
Cafodd Nigel Walker, 61, ei benodi i’r swydd fis Gorffennaf y llynedd, a bu’n Brif Weithredwr dros dro cyn i Abi Tierney gael ei phenodi fis Ionawr eleni.
Bydd Huw Bevan a Geraint yn cyd-gamu i swydd Nigel Walker am y tro, ac mae disgwyl penodi olynydd parhaol ddechrau’r flwyddyn.
Ond bydd y prif hyfforddwr Warren Gatland yn aros yn ei swydd yntau ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn, er i Gymru golli deuddeg gêm o’r bron.
Dywed Nigel Walker nad “ar chwarae bach” y gwnaeth e’r penderfyniad, ond ei bod hi’n “bryd cael arweinydd newydd” ar ôl “heriau”.
Fis diwethaf, dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n barod i ymddiheuro am “fethiannau difrifol” yn y ffordd y cafodd cytundebau tîm menywod Cymru eu rhoi i’r chwaraewyr, wrth iddyn nhw gael eu gorfodi i’w llofnodi nhw dan bwysau aruthrol.
Roedd yr Undeb eisoes dan y lach erbyn hynny yn sgil ymchwiliad gan BBC Cymru i honiadau o rywiaeth, hiliaeth a homoffobia, gyda’r prif weithredwr Steve Phillips yn ymddiswyddo fis Ionawr y llynedd.
Warren Gatland am barhau’n brif hyfforddwr
Er gwaetha’r cyfnod cythryblus ar y cae yn 2024, bydd Warren Gatland wrth y llyw yn y gwanwyn er ei fod e wedi bod dan gryn bwysau yn sgil canlyniadau diweddar.
2024 yw’r flwyddyn waethaf o ran canlyniadau yn y 143 o flynyddoedd ers sefydlu’r tîm cenedlaethol.
Mae gan Gatland gytundeb tan Gwpan y Byd 2027 ar hyn o bryd.
Collodd Cymru yn erbyn Ffiji, Awstralia a De Affrica yn yr hydref.
Mae disgwyl adolygiad pellach ar ddiwedd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth i Abi Tierney gyfaddef eu bod nhw wedi ystyried penodi staff newydd ar unwaith.
Mae Cymru’n rhif 11 ar restr detholion y byd ar hyn o bryd.
Ymhlith argymhellion yr Undeb mae penodi staff newydd i gynorthwyo Warren Gatland.