Mae Luke Williams, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cymharu’r cefnwr de Josh Key â Gareth Bale ifanc.
Daw ei sylwadau wrth ddweud ei fod e’n awyddus i’r clwb gynnal trafodaethau i ymestyn cytundeb Key.
“Mae e fel Gareth Bale,” meddai Williams wrth y BBC.
“Roedd cyfnod yn Tottenham lle anghofiodd Harry Redknapp [y rheolwr ar y pryd] ddweud wrtho fe ei fod e’n gefnwr de, a’i fod e jyst yn y tîm.
“Fe wnaeth e ddehongli hynny fel, ‘Fe wna i beth bynnag dw i eisiau, felly’, mewn ffordd dda dw i’n meddwl, wrth gwrs.
“Mae’n destun mwynhad gweld Josh yn mynegi ei hun yn y ffordd mae e wedi bod yn ei wneud, a gyda lefel o ganolbwyntio i’r tîm.”