Mae pedwar newid yn nhîm rygbi Cymru i herio Awstralia ddydd Sul (Tachwedd 17, 4.10yp).
Daw James Botham a Jac Morgan i mewn i’r rheng ôl yn gwmni i Aaron Wainwraight, gyda Tommy Reffell yn gostwng i’r fainc, a Taine Plumtree allan o’r garfan yn llwyr.
Mae Ellis Bevan yn dechrau yn safle’r mewnwr yn lle Tomos Williams, sydd wedi anafu ei ysgwydd, a Tom Rogers ar yr asgell yn absenoldeb Mason Grady, sydd allan o gemau’r hydref ag anaf.
Mae Rhodri Williams ac Eddie James wedi’u henwi ymhlith yr eilyddion.
Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr Cymru, wedi galw am fwy o ddisgyblaeth yn dilyn y golled o 24-19 yn erbyn Ffiji yng ngêm agoriadol yr hydref.
Tîm Cymru
15. C Winnett (Rygbi Caerdydd), 14. T Rogers (Scarlets), 13. M Llewellyn (Caerloyw), 12. B Thomas (Rygbi Caerdydd), 11. B Murray (Scarlets), 10. G Anscombe (Rygbi Caerloyw), 9. E Bevan (Rygbi Caerdydd), 1. G Thomas (Gweilch), 2. Dewi Lake (Gweilch, capten), 3. A Griffin (Caerfaddon), 4. W Rowlands (Racing 92), 5. A Beard (Gweilch), 6. J Botham (Rygbi Caerdydd), 7. J Morgan (Gweilch), 8. A Wainwright (Dreigiau)
Eilyddion
16. R Elias (Scarlets), 17. N Smith (Caerlŷr), 18. K Assiratti (Rygbi Caerdydd), 19. C Tshiunza (Caerwysg), 20. T Reffell (Caerlŷr), 21. Rh Williams (Dreigiau), 22. S Costelow (Scarlets), 23. E James (Scarlets)