Mae Cennydd Davies, prif sylwebydd rygbi BBC Cymru, yn dweud bod y grasfa o 52-20 gafodd tîm Warren Gatland yn erbyn Awstralia’n dangos “tristwch” sefyllfa rygbi Cymru ar hyn o bryd.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod “diwedd y daith wedi dod” i’r prif hyfforddwr, sydd wedi llywyddu dros unarddeg colled o’r bron – y rhediad gwaethaf yn hanes y tîm cenedlaethol.

Ac eithrio’r Barbariaid fis Tachwedd y llynedd, dydy Cymru ddim wedi ennill gêm ryngwladol ers iddyn nhw guro Georgia o 43-19 y mis cynt.

Mae’r Eidal a Ffiji ymhlith y timau sydd wedi eu curo nhw yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cyn i gyfres yr hydref ddod i ben, mae ganddyn nhw un gêm i ddod yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 23), ac mae Warren Gatland wedi awgrymu nad yw e’n gwybod a fydd e wrth y llyw ar gyfer y gêm honno neu beidio.

Mae’r rhediad presennol yn waeth na’r deg gêm gollodd Cymru’n olynol o dan Steve Hansen rhwng 2002 a 2003.

‘Sioc’

Yn ôl Cennydd Davies, mae canlyniadau Cymru dros yr unarddeg gêm diwethaf wedi bod yn “sioc aruthrol”.

“Roedd dyn yn ei chael hi’n anodd sut i ymateb yn y stadiwm ddoe, wrth fynd drwy nifer o ansoddeiriau,” meddai wrth golwg360.

“Ond yr un peth oedd yn dod i feddwl oedd ryw deimlad o dristwch, mewn ffordd, ein bod ni wedi disgyn i’r fath raddau.

“Hynny yw, ie, mae Awstralia wedi gwella fel tîm dros y flwyddyn ddiwethaf o ran arweinyddiaeth [y prif hyfforddwr] Joe Schmidt, ond mae rhaid cofio, nid Iwerddon oedd rhain, nid De Affrica, Ffrainc, Seland Newydd, a wnaethon nhw’n curo ni o dros 50 o bwyntiau.

“Rydyn ni wedi llithro cymaint.

“Mae Warren Gatland yn sôn bod yna welliannau wedi bod dros y flwyddyn ddiwetha’, ond alla i ddim dweud ein bod ni wedi’u gweld nhw; mae’r ystadegau’n pwyntio at rywbeth gwahanol.

“Felly, ie, y chwaraewyr sy’n gorfod cymryd y bai yn y pen draw, ond mi fydd Warren Gatland yn ymwybodol mewn camp broffesiynol taw pen y prif hyfforddwr sydd ar y bloc, ac mae gen i ofn fod diwedd y daith wedi dod iddo fe.”

“Problemau ehangach” Undeb Rygbi Cymru

Yn ôl Cennydd Davies, mae perfformiadau a chanlyniadau’r tîm cenedlaethol yn rhan o “broblemau ehangach” Undeb Rygbi Cymru oddi ar y cae.

Mae nifer o ffigurau mwyaf blaenllaw’r Undeb dan y lach, gan gynnwys y Prif Weithredwr Abi Tierney, y Cyfarwyddwr Rygbi Gweithredol Nigel Walker a’r cadeirydd Richard Collier-Keywood.

Does gan dîm y menywod ddim prif hyfforddwr ar hyn o bryd, yn dilyn ymadawiad Ioan Cunningham yn sgil ffrae tros gytundebau’r chwaraewyr a chanlyniadau gwael, a dydy’r strategaeth gafodd ei haddo gan Abi Tierny pan gafodd hi ei phenodi ddechrau’r flwyddyn ddim wedi gweld golau dydd eto, ac eithrio cyflwyniad byr dros yr haf.

Mae’r rhanbarthau’n dal i wynebu trafferthion ariannol sydd, yn ei dro, yn cael effaith ar ddatblygiad chwaraewyr fyddai’n gallu bwydo’r tîm cenedlaethol ar ôl colli nifer o’r hoelion wyth dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r Undeb hefyd wedi wynebu honiadau o hiliaeth, rhywiaeth, gwreig-gasineb a homoffobia yn dilyn adolygiad annibynnol.

Mae disgwyl i Tierney, Walker a Collier-Keywood wynebu cwestiynau gan glybiau Cymru yn ystod eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr wythnos nesaf.

“Mae yna ddau beth ar waith fan hyn,” meddai Cennydd Davies.

“Mae problemau rygbi Cymru’n rhai dirfawr.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod am y problemau o ran strwythur ac ariannu, ac yn y blaen.”

Colli hunaniaeth a DNA

Ar y cae, mae Cymru wedi colli eu hunaniaeth a’u DNA o dan Warren Gatland, medd Cennydd Davies.

“Ond os ydyn ni’n canolbwyntio ar ein tîm cenedlaethol ar hyn o bryd, dw i ddim yn siŵr beth yw hunaniaeth y tîm, beth yw DNA y tîm, beth maen nhw’n sefyll drosto ar hyn o bryd.

“Mi oedd hynny’n amlwg i’w weld yn nheyrnasiad cyntaf Warren Gatland wrth y llyw, ond yn anffodus dyw’r personél ddim yno bellach i weithredu’r un gêm mae e’n ceisio’i chwarae, a’r gêm honno yn y bôn yw gêm geidwadol, ceisio ennill y frwydr gorfforol, ceisio aros yn y frwydr – dyna’r rhethreg rydyn ni’n ei chlywed gan Warren Gatland.

“Hynny yw, ceisio aros gyda thimoedd, ond dyw hynny ddim yn ddigon da bellach.

“Mae rygbi wedi newid, ond dw i’n poeni nad yw dulliau nac athroniaeth Warren Gatland wedi symud gydag amser.

“Ryw ddwy flynedd yn ôl, wnes i alw Warren Gatland yn Jose Mourinho y byd rygbi, hynny yw hyfforddwr da yn ei amser, ond fod y gêm wedi symud ymlaen. Ond dw i’n poeni dyw e ddim wedi symud ymlaen, ac mae hynny i’w weld yn ei ganlyniadau ers iddo fel adael Cymru y tro cyntaf.

“Aeth e’n ôl i Waikato gyda’r Chiefs a wnaethon nhw golli wyth gêm yn ei dymor cyntaf.

“Wedyn aeth e i’r Llewod, a doedd y Llewod ddim wedi maeddu tîm eitha’ gwan o ran De Affrica – oedd ddim wedi chwarae am flwyddyn a hanner oherwydd Covid – a ddim wedi llwyddo i ennill y gyfres bryd hynny.

“A phan aeth e’n ôl i Seland Newydd, cafodd ei wthio lan llofft, fel petai, o rôl y prif hyfforddwr yn Hamilton.

“Felly dyw canlyniadau Warren Gatland ddim wedi bod yn wych ers tro, ac yn anffodus mae ei waddol e’n cael ei saernïo fesul gêm ar hyn o bryd.

“Dw i ddim yn credu bod ffordd yn ôl iddo fe ar ôl hyn.

“Pa bwynt sy’n dderbyniol cyn bod rhaid i’r gyfundrefn fynd? Byddwn i’n dadlau bod y pwynt yna eisoes wedi dod.

“Mae’r pwysau ond yn cynyddu nawr, ac mae’n fater o bryd fydd e’n mynd, nid os fydd e’n mynd.

“Fy marn bersonol i yw y bydd e wrth y llyw ar gyfer De Affrica, ond dw i’n credu ar ôl hynny y bydd e’n ymadael.”

Pwy ddaw nesa’n “gwestiwn anferthol”

Mae nifer o enwau wedi’u crybwyll i fod yn brif hyfforddwr nesaf Cymru – yn eu plith mae Steve Tandy, Ronan O’Gara a Michael Cheika.

Yn ôl Cennydd Davies, mae pwy fydd yn olynu Warren Gatland yn “gwestiwn anferthol”.

“Y broblem yw, un, pwy sydd ar gael, a hefyd mae amser yn brin cyn y Chwe Gwlad.

“A fydd angen penodi rhywun dros dro?

“A fydd rhywun sydd yn y gyfundrefn megis Robert Howley yn gorfod cydio yn yr awennau – nid ’mod i’n credu y dylai fe – ond fi ddim yn credu y bydd opsiynau lu gyda’r Undeb, ac wedyn penodi ar ôl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Mae’r rhain yn gwestiynau niferus fydd yn codi os yw Warren Gatland yn mynd.

“Ond maen nhw mewn cornel, braidd, oherwydd y cytundeb a luniwyd gan Steve Phillips [y cyn-Brif Weithredwr] – ffolineb llwyr wnes i ddweud, a dw i ddim yn dweud hyn ar ôl ’mod i’n gwybod beth sy’n digwydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ond dw i’n grediniol dych chi ddim yn mynd ’nôl yr eildro, ac mae hynny wedi cael ei brofi.

“Mae Steve Tandy [Cymro sy’n hyfforddwr amddiffyn ar yr Alban] yn hyfforddwr craff.

“Wnaeth e’n dda yn wreiddiol gyda’r Gweilch, ond roedd pethau wedi mynd yn drech iddo fe ar y diwedd.

“Dw i ddim yn siŵr os yw e’n ffigwr allai gydio yn yr awennau fel prif hyfforddwr.

“Hynny yw, mae e wedi creu enw fel hyfforddwr yr amddiffyn yn y blynyddoedd diwethaf.

“Mi fyddai e’n gaffaeliad o fewn tîm hyfforddi, ond dw i’n amau ac yn cwestiynu oes gyda fe’r ddawn i gymryd swydd sydd mor anferthol.

“Yn anffodus, dw i’n meddwl fydd rhaid edrych i wledydd tramor, achos dw i ddim yn meddwl bod hyfforddwr [yng Nghymru], ac mae hynny’n dangos y broblem.

“Dydyn ni ddim yn meithrin chwaraewyr, a dydyn ni ddim yn meithrin hyfforddwyr chwaith.

“Dw i ddim yn credu bod enw yng Nghymru sy’n dod i feddwl.

“Ronan O’Gara – ydy e’n wirioneddol yn mynd i adael La Rochelle? Dw i ddim yn siŵr, er ei fod e â’i fryd ar hyfforddi ar y lefel ryngwladol.

“Dw i wedi clywed Michael Cheika, ond dyw e ddim yn dueddol o aros mewn un lle yn hir iawn. Mae e’n enw arall.

“Yr un enw fyddwn i wedi dwlu ei weld ’nôl yn rygbi Cymru ac y dylen nhw fod wedi’i ystyried ddwy flynedd yn ôl yw cyn-brif hyfforddwr y Scarlets, Brad Mooar.

“Roedd e’n arloesol fel hyfforddwr, yn dda o ran cyfathrebu gyda’r chwaraewyr, a’r chwaraewyr roeddwn i’n sgwrsio gyda nhw o ran y Scarlets yn uchel eu parch ohono fe.

“Mae e, ar hyn o bryd, yn rhan o dîm hyfforddi’r Ariannin.

“Mae e’n enw fyddwn i’n ei daflu i mewn i’r pair yn ogystal.”