Terry Breverton yw awdur y gyfrol rygbi The Greatest Sporting Family in History, sy’n adrodd hanes wyth brawd o’r teulu Williams oedd wedi chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd. Yma, ar ôl colled siomedig yn erbyn Ffiji, mae’n cwestiynau a ddylai Warren Gatland fod wedi cael ei ailbenodi’n brif hyfforddwr Cymru.


Mae dyn yn pendroni, wrth ailbenodi Warren Gatland yn hyfforddwr Cymru, a wnaeth y pwyllgor gyfweld â chwaraewyr a chyn-chwaraewyr rhyngwladol ynghylch eu hargymhellion.

Hefyd, a wnaethon nhw ystyried Shaun Edwards, sy’n uchel ei barch fel hyfforddwr, o ystyried ei fewnbwn sylweddol i lwyddiant Gatland? Mae’n gwbl hysbys fod Edwards yn gobeithio y byddai tîm rhyngwladol neu glwb mawr yn ei benodi’n brif hyfforddwr cyn iddo fe fynd yn hyfforddwr amddiffyn Ffrainc.

Yn bwysicach, a wnaethon nhw edrych ar record Gatland ar ôl iddo fe adael Cymru i hyfforddi’r Waikato Chiefs, neu’r Chiefs erbyn hyn, yn Seland Newydd?

Ar ôl ennill dim ond pedair gêm allan o 14, heb yr un gêm gyfartal, cafodd Gatland ei ddisodli a’i “symud lan llofft”. 28.57% oedd ei gyfradd lwyddo, fel canran gan gynnwys pwyntiau bonws a gemau cyfartal, ar ôl colli ei wyth gêm olaf wrth y llyw.

Os ydyn ni’n cymharu ei gyfnod gyda’r Chiefs â hyfforddwyr eraill, gwelwn y canlynol:

  • Ian Foster (2004-2011) 50%
  • Dave Rennie (2012-2017) 68.27%
  • Colin Cooper (2018-2019) 52.94%
  • Warren Gatland (2020) 28.57%
  • Clayton McMillan (2021- ) 73.58%

Fe wnaeth McMillan olynu Gatland, a wnaeth y Chiefs ddim edrych dros eu hysgwydd.

Yn 2021, fe gollon nhw rownd derfynol Super Rugby, y rownd gyn-derfynol yn 2022, a’r rownd derfynol yn 2023, a’r cyfan oll yn erbyn y Crusaders, sef tîm gorau Seland Newydd.

Fel mae’n digwydd, roeddwn i’n gwylio tîm Cymru yn eu hymarferion cyn y gêm yn erbyn Ffiji. Ym mron bob un, cafodd y bêl ei gollwng neu fe aeth pàs ar gyfeiliorn – a hynny heb wrthwynebwyr go iawn. Ydy hynny’n dangos canolbwyntio ac ymroddiad? Fyddai e ddim wedi digwydd gyda Shaun Edwards ar y cae.