Mae clybiau pêl-droed Nantes a Huddersfield wedi beirniadu’r hiliaeth yn erbyn y Cymro Sorba Thomas.
Cafodd sylwadau hiliol eu hanelu at Thomas wrth iddo fe chwarae i Nantes yn erbyn Lens yn Ffrainc.
Mae’r chwaraewr ar fenthyg yn Llydaw, ac roedd e’n eilydd hwyr yn y gêm.
Mewn datganiad, dywed FC Nantes eu bod nhw’n “mynegi dicter dwys” yn sgil y digwyddiad, gan roi eu “cefnogaeth lawn” i Thomas.
Dywed Huddersfield eu bod nhw’n “grac” ynghylch y digwyddiad, ac yn ei “gondemnio yn y termau cryfaf posib”.
Maen nhw’n dweud nad oes “lle i wahaniaethu yn ei holl ffurfiau” yn y byd pêl-droed, ac y dylai’r sawl oedd yn gyfrifol “deimlo canlyniadau llawn eu gweithredoedd”.