Pan feddyliwn am symbolau o Gymru, beth sy’n dod i’r meddwl? Y Ddraig Goch? Cennin Pedr? Neu rygbi? Y cit rygbi, efallai?
Mae cit rygbi Cymru wedi datblygu i fod yn symbol byd-enwog o’r wlad, gyda lliw coch y crys yn adnabyddus fel “coch Cymru” – hynny yw, lliw coch sy’n perthyn i Gymru.
Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld y crys rygbi cenedlaethol yn ceisio ymgorffori elfennau o Gymru. Er enghraifft, roedd cit 2017-18 yn cynnwys manylion oedd yn adlewyrchu’r dirwedd a’r diwylliant trwy’r cysyniad fod y dilledyn yn ‘Wead o Gymru’. Cafodd pob chwaraewr y cyfle i ddewis ardal yng Nghymru oedd yn arwyddocaol iddyn nhw, a chafodd yr ardal honno ei hintegreiddio yn rhan o’u crysau personol nhw.
Eleni, mae’r crys ychydig yn wahanol. Yn ogystal â’r crys coch, mae crys melyn a du hefyd, sef lliwiau baner Dewi Sant. Mae nodwedd arall ar y crys ‘cartref’ yn ymddangos o dan y coler, sef y geiriau ‘Pleidiol Wyf I’m Gwlad’ o ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Adlewyrchiad ydy hyn o gariad tuag at y genedl. Yn ôl gwefan ‘Macron’, cynhyrchwyr y crysau, balchder Cymreig yw un o brif themâu’r cit eleni.
Un peth cyson a pharhaus ar grysau rygbi Cymru yw’r tair pluen. Ers yr ail ganrif ar bymtheg, mae’r tair pluen wedi’u cysylltu â Thywysog Cymru. Ond mewn gwirionedd, mae’r plu yn cynrychioli Dug Cernyw, ac felly etifedd y Goron. Mae’r hanesydd diwylliannol Peter Stead yn un sydd wedi dadlau bod y teulu brenhinol a’r lluoedd arfog wedi cyfrannu at gryfhau hunaniaeth Gymreig ers cyfnod y Tuduriaid.
O ran sut mae rygbi wedi dod yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth fel gwlad, dywed yr hanesydd Gareth Williams fod rygbi wedi dod yn rhan o’n hunaniaeth tua’r un pryd â’r elfennau eraill wnaeth ffurfio Cymru ddiwylliannol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth Undeb Rygbi Cymru yn sefydliad cenedlaethol yn ystod yr ymgyrch am gyrff cenedlaethol tua chyfnod y Chwyldro Diwydiannol.