Mae gan ddiwydiant tecstilau Cymru hanes hir a chyfoethog, sy’n ymestyn yn ôl dros nifer o ganrifoedd. Yr hyn sydd o fantais i’r wlad yn y maes hwn yw ei thirwedd. Nid yw’n gyfrinach fod gan Gymru fryniau, mynyddoedd ac afonydd rownd pob cornel. Mae’r rhain yn cynorthwyo’r prosesau cynhyrchu, gan gynnig cartref i ffynhonnell hollbwysig o decstilau – defaid!
Yn hanesyddol, roedd melinau deunyddiau yn creu dillad, ategolion ac addurniadau ar gyfer glowyr, pigwyr cotwm a milwyr Indiaidd. ‘Carthen’ yw’r enw traddodiadol ar y flanced Gymreig sydd wedi’i gwneud o wlân, ac roedd y rhain yn boblogaidd iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.
Mae Melin Tregwynt mewn dyffryn coediog anghysbell ar arfordir Sir Benfro ers o leiaf 1841. Mae’r teulu Griffiths wedi gweu yno ers dros gant o flynyddoedd, ar ôl i Henry Griffiths ei phrynu hi yn 1912 am £760. Yn 2022, fe wnaeth y perchnogion, Howard ac Amanda Griffiths, droi’r felin yn ymddiriedolaeth dan berchnogaeth y gweithwyr. Fe wnaethon nhw adnabod mai sgiliau a dealltwriaeth y gweithwyr oedd yn cynnal y traddodiad o weu ym Melin Tregwynt, ac yn cynnal ei llwyddiant.
Welsh Otter
Erbyn heddiw, mae’r diwydiant tecstilau Cymreig yn parhau i ffynnu ac ennyn diddordeb.
Mae Welsh Otter yn gwmni sy’n gwerthu blancedi vintage wedi’u creu â deunyddiau Cymreig. Mae ganddyn nhw ystafell arddangos yn Ninbych-y-Pysgod.
Yn yr un modd, mae Huit Denim yn cynhyrchu jîns cynaliadwy â llaw yn Aberteifi, ac yn cynnal etifeddiaeth y grefft. Eu hamcan yw dod â gweithgynhyrchu yn ôl adref i Gymru, gan fod nifer o ffatrïoedd yn cau’n naturiol wrth i fusnesau sy’n apelio mwy at bobol ifanc eu disodli.