Pan ddigwyddodd ymosodiad Hamas ychydig dros flwyddyn yn ôl rŵan, roeddwn i, fel sawl person arall, wedi fy mrawychu gan y digwyddiad.
Mae’n rhaid i mi gyfaddef, cyn y digwyddiad hwn doedd y sefyllfa yn Israel a Thiroedd y Meddiant ddim wedi bod ar ben fy agenda wleidyddol. Am resymau personol, roeddwn i’n tueddu i ymddiddori mwy yn sefyllfa wleidyddol gwledydd De America ac ymyrraeth filwrol yr Unol Daleithiau yn y rhan hon o’r byd.
Oeddwn, roeddwn i’n ymwybodol fod Israel yn euog o niferoedd lawer o weithredoedd treisgar yn erbyn Palestiniaid, ac mai dim ond feto’r Unol Daleithiau (ac ymataliad Llywodraeth Prydain) oedd yn ei hamddiffyn dro ar ôl tro o dderbyn condemniad y Cenhedloedd Unedig. Roeddwn i’n adnabod pobol oedd wedi ymweld â Phalesteina, ac roedd eu hanesion am y modd yr oedd yr Israeliaid yn trin y Palestiniaid yn aml yn codi gwallt eich pen.
Ond ar ôl ymosodiad Hamas, ac wrth iddi ddod yn amlwg fod Israel yn bwriadu cosbi trigolion cyffredin Gaza am y digwyddiad, beth bynnag y gost mewn marwolaethau, penderfynais addysgu fy hun am yr hanes arweiniodd at yr ymosodiad gwreiddiol a’r sefyllfa gyfredol yn Israel a Phalesteina. Mi wnes i’r penderfyniad hefyd i gyfyngu fy ymchwil i fudiadau ac unigolion Iddewig oedd yn gwrthwynebu gweithredoedd Israel. O wneud hynny, byddwn i’n osgoi syrthio i’r fagl o weld y gwrthdaro fel gêm bêl-droed wleidyddol – ein tîm ni yn erbyn eich tîm chi. Tanysgrifiais i Hareetz, y papur dyddiol Israelaidd rhyddfrydol, a dechreuais ddilyn mudiadau megis Jewish Voice for Peace, Jews For Justice for Palestine a B’Tselem, ymhlith eraill. Gwyliais beth wmbreth o fideos ar YouTube, lle roedd Iddewon amlwg megis Gabor Maté, Naomi Klein, Simone Zimmerman, Ilan Pappé, Milo Peled a Norman Finkelstein (gŵr miniog iawn ei feddwl a’i dafod) yn trafod eu gwrthwynebiad i’r hyn maen nhw’n ei weld fel gwladwriaeth ffasgaidd, hiliol Israel.
Mae lleisiau Israeliaid ac Iddewon sy’n feirniadol o Israel yn aml iawn yn cael eu hanwybyddu gan y cyfryngau prif ffrwd, yn enwedig y rhai asgell dde. Mae’n rhywbeth mae llywodraeth Israel yn ceisio’i sicrhau er mwyn cryfhau’r naratif ffals fod unrhyw un sy’n gwrthwynebu Israel yn wrth-Semitaidd. Mae dau lythyr welodd olau dydd ddydd Iau diwethaf, fodd bynnag, yn chwalu’r myth hwnnw yn llwyr.
Llythyr Gan Israeliaid yn y Guardian
Ddydd Iau diwethaf, cafodd llythyr ei gyhoeddi yn y Guardian wedi’i lofnodi gan 3,200 o Israeliaid yn galw ar y gymunded ryngwladol i weithredu i atal arweinwyr y wlad rhag parhau â’u gweithredoedd difaol yn erbyn y Palestiniaid. Roedd y llythyr yn galw am ddefnyddio pob math o sancsiynau posibl i sicrhau cadoediad er lles Israeliaid a Phalestiniaid fel ei gilydd a thrigolion yr ardal yn gyffredinol.
Mae’r llythyr yn condemnio ymosodiad gwreiddiol Hamas dros flwyddyn yn ôl, ond mae hefyd yn hallt iawn ei feirniadaeth o’r troseddau rhyfel llusosog y mae Israel wedi’u cyflawni ers hynny. Prif fyrdwn y llythyr, fodd bynnag, yw fod cymdeithas Israel yn gyffredinol wedi camu dros y dibyn ac mai dim ond y gymuned ryngwladol ehangach all newid y sefyllfa er gwell.
“Unfortunately, the majority of Israelis support the continuation of the war and massacres, and a change from within is not currently feasible. The state of Israel is on a suicidal path and sows destruction and devastation that increase day by day.”
LLythyr Gan Iddewon Prydeinig at Archesgob Caergaint
Yr un diwrnod ag y cafodd y llythyr uchod ei gyhoeddi yn y Guardian, cafodd llythyr ei gyflwyno â llaw i Justin Welby, Archesgob Caergaint, wedi’i lofnodi gan bron i 800 o Iddewon sy’n byw yng ngwledydd Prydain. Mae’r llythyr yn eithriadol o feirniadol o Wladwriaeth Israel a’i harweinwyr, ond yn ogystal o’r Prif Rabbi Prydeinig, Ephraim Mirvis, a’r Board of Deputies (BOD) of British Jews, sy’n honni, yn groes i’r gwirionedd, mai nhw yw unig gynrychiolwyr Iddewon Prydain. Mae’r llythyr yn nodi fod y BOD ond yn cynrychioli lleiafrif o Iddewon gwledydd Prydain.
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i leisio condemniad hallt o weithredoedd Llywodraeth Israel a’r ing mae’r rheiny sydd wedi arwyddo’r llythyr yn ei deimlo o gael eu cyplysu, fel Iddewon, â’r gweithredoedd hynny.
“We ask you to reflect on the shame and horror we feel at being represented as approving of the murderous oppression of Palestinians by the self-declared Jewish supremacist state of Israel. To be tarred with the brush of complicity in its programme of land theft, house demolitions, pogroms and, now, mass killing, connects us, viscerally, to our own historic experience as victims of pogroms and the Nazi genocide. In the light of this alone, we are resolute in our condemnation of Israel’s ethnic cleansing of Palestinians from their lands.”
Mae’r llythyr hefyd yn feirniadol iawn o’r arfer o gyhuddo grwpiau ac unigolion, gan gynnwys Iddewon eu hunain o wrth-Semitiaieth os ydyn nhw’n beirniadu Israel.
Mae’r llythyr yn cloi trwy alw ar yr Archesgob i dderbyn dirprwyaeth o blith yr Iddewon hynny sydd wedi llofnodi’r llythyr er mwyn iddo glywed eu barn ynglŷn â “the evil of what Israel is doing to the Palestinians”.
Mae’n werth darllen y ddau lythyr yn eu cyfanrwydd.