Mae mwy o alw nag erioed o’r blaen am wersi Catalaneg, yn ôl consortiwm CPNL yng Nghatalwnia.

Grŵp o sefydliadau cyhoeddus sy’n ceisio normaleiddio’r iaith yw CPNL.

Yn 2024, fe fu mwy na 9,000 o bobol ar restr aros am wersi, ac mae’r galw wedi cynyddu dros 10,000 ers 2019, ond dim ond 1,500 o lefydd sydd wedi’u creu i bobol gael dysgu’r iaith, yn ôl gwefan Catalan News.

Mae mwy o lefydd wedi’u cynnig nag erioed o’r blaen eleni (91,337), a’r bobol hynny’n hanu o 170 o wahanol ddinasoedd.

Dechreuwyr pur yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw (83%), ac mae’r rhestr aros hiraf yn Barcelona, er mai yn ninasoedd Manresa a Tortosa mae’r cynnydd mwyaf yn y galw.

“Bron yn amhosib” cael mynediad at wersi

Mae data Asiantaeth Newyddion Catalwnia (ACN) yn ategu pryderon undeb gwerthwyr stryd Catalwnia, sy’n dweud ei bod hi “bron yn amhosib” cael mynediad at gwrs.

Yn ôl Francesc Xavier Vila, gweinidog polisi ieithyddol Catalwnia, mae’r cynnig sydd ar gael i bobol sydd eisiau dysgu’r iaith yn annigonol ar hyn o bryd.

Er mwyn ateb y galw, mae gan y llywodraeth gynlluniau i “ail-lansio” CPNL.