Rhaid i Lywodraeth Lafur San Steffan gynnwys £4bn o arian HS2 i Gymru yn y Gyllideb fydd yn cael ei chyhoeddi’r wythnos hon, yn ôl Ben Lake.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi Cyllideb yr Hydref ddydd Mercher (Hydref 30).

Yn ogystal â hawlio’r arian fyddai wedi cael ei wario yng Nghymru pe bai rheilffordd HS2 yn brosiect ar gyfer Lloegr yn unig – sef £4bn – mae Ben Lake, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, eisiau i gyfoeth dros £10m gael ei drethu ar 2%.

Dywed yr Aelod Seneddol dros Geredigion Preseli y byddai mesur o’r fath yn codi £24m y flwyddyn i wledydd Prydain.

Ar drothwy cyhoeddi’r Gyllideb, mae Ben Lake yn dweud bod pobol Cymru’n haeddu gweld cyni’n cael ei wyrdroi.

Cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol

Mewn araith yng nghanolbarth Lloegr heddiw (dydd Llun, Hydref 28), mae disgwyl i Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, rybuddio am heriau economaidd “heb eu tebyg” ond fod “dyddiau gwell i ddod”.

Mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi cynnydd mewn rhai trethi, gan gynnwys maint cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n wynebu bylchau difrifol yn eu cyllid, ac mae angen mynd i’r afael â nhw ar frys,” meddai Ben Lake.

“Ar ben hynny, mae saga barhaus HS2 yn gwadu Cymru o hyd at £4bn mewn arian i’r rheilffyrdd – arian fyddai’n gallu trawsnewid ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

“Roedd ymgyrch etholiadol Llafur yn canolbwyntio ar addo newid, felly mae’n rhaid iddyn nhw gyflwyno hyn nawr fel Llywodraeth.”

Grym yn nwylo cymunedau

Ychwanega Ben Lake fod angen i Lywodraeth San Steffan roi’r grym i gymunedau siapio’u dyfodol economaidd eu hunain.

“Fedran nhw wneud hyn yn y Gyllideb drwy roi mwy o reolaeth i Gymru ar eu hadnoddau, gan gynnwys Ystad y Goron, ynghyd â sicrhau bod unrhyw benderfyniadau am y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu gwneud yng Nghymru yn y dyfodol.

“Fel gwrthblaid, fe wnaeth y Blaid Lafur gefnogi galwadau Plaid Cymru am y £4bn sy’n ddyledus i Gymru o arian y rheilffyrdd.

“Fedran nhw ddim gwyrdroi’r alwad honno nawr a hwythau yn y llywodraeth.”

Mae prosiect HS2 yn dal i gael ei ystyried yn brosiect ‘Cymru a Lloegr’, er nad oes unrhyw ran o’r rheilffordd yng Nghymru.

Pe bai’n cael ei ystyried yn brosiect ‘Lloegr yn unig’, byddai Cymru’n derbyn £4bn o gyllid canlyniadol drwy Fformiwla Barnett.

Newidiadau posib i ffermydd

Yn ôl y BBC, mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu newid rheolau treth yn ymwneud â ffermydd.

Ar hyn o bryd, does dim treth etifeddiant ar dir sy’n cael ei ddefnyddio i ffermio.

Mae’r dreth etifeddiant yn cael ei chodi ar eiddo, adeiladau ac arian rhywun sy’n marw gyda thros £325,000 i’w henw.

Gallai gorfodi’r dreth ar dir fferm arwain at nifer o ffermydd yn cael eu “torri lan”, yn ôl undeb NFU Cymru.

Mae Ben Lake hefyd yn dweud y byddai cynnydd posib yn cael effaith “anghymesur” ar ardaloedd gwledig.

Mae NFU Cymru, ynghyd â’r NFU, NFU yr Alban ac Undeb Ffermwyr Ulster, wedi ysgrifennu llythyr at Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, yn mynegi eu pryder am unrhyw newidiadau posib i’r dreth etifeddiant.

Dywed Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, eu bod nhw wedi bod yn ysgrifennu at bob aelod seneddol yng Nghymru, a’r Canghellor, ar y mater ers dechrau mis Hydref.

Mae’r sïon diweddar, os ydyn nhw’n gywir, “yn peri pryder sylweddol”, meddai Aled Jones, gan ychwanegu mai ei bryder pennaf yw gweld ffermydd yn cael eu “torri lan”.

“Byddai hyn yn cael effaith negyddol iawn ar strwythur ffermydd teuluol Cymru a’r gymuned wledig ehangach,” meddai.