Mae cwmni Barti Rum o Sir Benfro wedi ennill ‘gwobr aur’ yng nghategori’r gwirodydd yng Ngwobrau Bwyd Prydain eleni.

Mae Barti Rum yn cael ei ddisgrifio gan ei grëwyr fel y rỳm sbeislyd mwyaf blasus ar y farchnad.

Merlin Griffiths, yr arbenigwr bwyd a phersonoliaeth teledu, ddyfarnodd y bathodyn aur i Barti Rum.

Wrth feirniadu, disgrifiodd Merlin Griffiths ysbryd sbeislyd “bendigedig” Barti Rum.

“Mae’n cynnwys lashings o fanila, sitrws, sinamon a chlof, i gyd wedi’u hategu gan umami cynnil o wymon Cymreig,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn “wirodydd sbeislyd rhagorol”.

Wedi’i lansio yn 2014 i ddathlu’r cynnyrch artisan gorau yn niwydiant bwyd a diod y Deyrnas Unedig, ac i roi llwyfan hyrwyddo i frandiau a gwneuthurwyr angerddol, mae Gwobrau Bwyd Prydain yn denu amryw o oreuon y diwydiant bwyd i fod yn feirniaid.

Yn sgil derbyn yr anrhydedd fwyaf yng Ngwobrau Bwyd Prydain eleni, bydd Barti Rum bellach yn cael ei hyrwyddo ar draws sianeli print, ar-lein a chymdeithasol Bwyd Prydain.

‘Anrhydedd enfawr’

Yn dilyn eu llwyddiant, dywed Frank Barnikel, Rheolwr-Gyfarwyddwr Barti Rum, fod y wobr yn “fathodyn anrhydedd enfawr” i’w rỳm sbeislyd poblogaidd.

“Mae cymaint o frandiau gwirodydd gwych ym Mhrydain heddiw, ac mae cael y gydnabyddiaeth hon yn genedlaethol yn arbennig iawn.

“Rydyn ni’n falch fod y beirniaid yn ei hoffi gymaint â ni!”

‘Gwerthiant ardderchog’

Daw buddugoliaeth Barti o fewn wythnosau ar ôl i’r cynnyrch ymddangos ar silffoedd Tesco yng Nghymru.

Lansiodd ‘Barti Spiced’ – sydd bellach wedi ennill gwobrau – yn ogystal ag ail gynnyrch, ‘Barti Cream Liqueur’, fis Medi eleni, gyda “gwerthiant ardderchog”, yn ôl un rheolwr Tesco yn Hwlffordd.

Mae ‘Barti Spiced’ ar gael gan lawer o werthwyr annibynnol ledled y wlad, mewn archfarchnadoedd ac ar wefan Barti Rum.

 

Barti Rum

300 mlynedd ers saethu Barti Ddu

Cafodd Bartholomew Roberts ei saethu ar Chwefror 5, 1722 a bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach, ac fe ysbrydolodd e un o nofelau T. Llew Jones