Mae Hybu Cig Cymru’n chwilio am Brif Weithredwr newydd, yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n “gyfnod o newid”.

Dywed Catherine Smith, cadeirydd y mudiad, fod angen Prif Weithredwr “eithriadol” i arwain y corff yng “ngham nesaf” ei ddatblygiad “o fewn diwydiant deinamig sy’n esblygu”.

Pwysleisia ei fod yn “gyfnod cyffrous” i ymuno â Hybu Cig Cymru, sydd ar fin “cychwyn ar bennod newydd” yn eu hanes.

Mae’n rôl “hollbwysig” sy’n gofyn am arweinydd sy’n rhagori mewn creu perthynas a meithrin cysylltiadau gyda Llywodraeth Cymru, ffermwyr, proseswyr, arweinwyr diwydiant a phartneriaid eraill ar draws y sector amaethyddol, meddai.

Ychwanega y bydd y Prif Weithredwr yn gyfrifol am gyflawni camau olaf strategaeth Gweledigaeth 25 Hybu Cig Cymru, cyn mynd ati i lunio strategaeth newydd.

Mae disgwyl i’r strategaeth newydd ysgogi twf cynaliadwy, gan sicrhau bod y sefydliad yn “esiampl o ragoriaeth”.

“Os gallwch chi ysbrydoli tîm sy’n byw a bod yn y sector hwn i ddilyn y weledigaeth honno a bod yn ysbrydoledig wrth gyflwyno newidiadau sy’n ymgorffori nid yn unig safonau technegol a gweithredol uchel, ond hefyd ymrwymiad gwirioneddol a thosturi tuag at y bobl sy’n hwyluso ein llwyddiant, yna rydym am glywed gennych,” meddai.

Amddiffyn gwead economaidd y diwydiant amaethyddol

Mae disgwyl i’r Prif Weithredwr hefyd gael ei ddynodi yn Swyddog Cyfrifyddu gan Lywodraeth Cymru, fel bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu yn “gall a thryloyw”.

Yn ôl Catherine Smith, mae’r rôl yn “gyfle unigryw i sicrhau effaith barhaol ar y sefydliad ac ar wead economaidd y diwydiant amaethyddol a’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru a thu hwnt”.

Mae gofyn i’r Prif Weithredwr “ymgorffori’r mathau o ymddygiad sy’n meithrin diwydiant cryf a thosturiol sy’n cael ei yrru gan ganlyniadau” er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y swydd, meddai.

“Trwy arwain gyda empathi, dylanwad, creadigrwydd a phenderfyniad bydd yn ysbrydoli rhagoriaeth, yn sbarduno twg sefydliadol ac yn hyrwyddo diwylliant sy’n seiliedig ar gydweithio ac uchelgais.”