Mae trenau’n rhedeg eto rhwng Machynlleth ac Amwythig yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên yr wythnos ddiwethaf.

Roedd rheilffordd y Cambrian ar gau ers i ddau drên daro ei gilydd ger Llanbrynmair nos Lun ddiwethaf (Hydref 21).

Bu farw Tudor Evans o Gapel Dewi ger Aberystwyth yn dilyn y digwyddiad, a chafodd pedwar arall eu hanafu’n ddifrifol.

Mae gwaith i drwsio rhan o’r A470 ger Talerddig wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd, er bod disgwyl i’r gwaith ddechrau ddydd Iau (Hydref 31).

‘Gwiriadau diogelwch manwl’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod Network Rail wedi ailagor y lein, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau rhedeg gwasanaethau heddiw (dydd Llun, Hydref 28).

Dywed Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, fod yr archwiliadau ar y safle wedi dod i ben, ond y bydd yr ymchwiliad yn parhau oddi yno.

Mae Network Rail wedi gwneud gwiriadau diogelwch “manwl” dros y penwythnos hefyd, meddai.

“Gallai’r ddamwain barhau i amharu rhywfaint ar bethau dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf gan gynnwys rhai newidiadau dros dro i’r gwasanaeth.

“Rydyn ni’n cynghori teithwyr i edrych ar yr amserlenni cyn teithio.”

Llinell gymorth

Dywed Ken Skates hefyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi creu llinell gymorth benodol i helpu’r 41 o deithwyr oedd yn teithio ar un o’r ddau drên, a bod y cymorth sydd ar gael yn cynnwys gwasanaeth cwnsela ac archwiliadau lles, ynghyd â mesurau ymarferol, fel canfod unrhyw eiddo coll.

“Hefyd, mae Trafnidiaeth Cymru wedi trefnu cymorth priodol i staff y rheilffyrdd y gwnaeth y ddamwain effeithio arnyn nhw,” meddai.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i bawb yn y diwydiant rheilffyrdd sydd wedi gweithio mor galed ers y ddamwain i helpu’r rheini gafodd eu heffeithio, ac i’n galluogi i ailddechrau’r gwasanaethau pwysig hyn.

“Dw i’n ddiolchgar hefyd i’r gymuned leol a’r teithwyr am eu hamynedd.”

“Sioc a syndod”: Un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên

Alun Rhys Chivers

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Llanbrynmair neithiwr (nos Lun, Hydref 21), ac mae cwestiynau i’w hateb, medd cynghorydd