Mae un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên yn ardal Llanbrynmair ym Mhowys.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 7.30yh.

Ymatebodd yr heddlu, yr heddlu trafnidiaeth, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau ac asiantaethau rheilffyrdd i’r digwyddiad.

Mae teulu’r dyn fu farw wedi cael gwybod, ac maen nhw’n cael eu cefnogi gan yr heddlu.

Roedd pymtheg o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty, ond does dim lle i gredu bod eu bywydau mewn perygl nac am newid yn sylweddol.

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n parhau i gydweithio â’r gwasanaethau brys eraill tra bod ymchwiliad ar y gweill.

Dylai pobol ddilyn cyngor yr heddlu trafnidiaeth am ragor o wybodaeth, medden nhw.

‘Sioc i’r ardal gyfan’

“Mae’n syndod fod y ddamwain wedi digwydd neithiwr, ac yn sioc i’r ardal gyfan,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy’n cynrychioli ward Glantwymyn yn enw Plaid Cymru ar Gyngor Powys.

“Yn arbennig felly o glywed yn ddiweddarach fod yna berson wedi colli ei fywyd. Dyna ydi’r prif gonsyrn gan bawb.

“Rhaid diolch i’r gwasanaethau brys ddôth yna yn un haid, gan gynnwys hofrenyddion a’r heddlu a’r gwasanaethau eraill. Rhaid canmol hynny.”

‘Cwestiynau i’w hateb’

Ond dywed Elwyn Vaughan fod cwestiynau i’w hateb bellach am yr hyn ddigwyddodd.

“Beth yn union sydd wedi digwydd?” meddai.

“Pam fod o wedi digwydd?

“Mae angen sicrwydd fod dim byd tebyg i hyn yn mynd i ddigwydd eto.

“Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yma o’r blaen.

“Y cwestiwn mawr ydi – rydan ni yma yn Nhalerddig, rhwng Llanbrynmair a Charno – mae man pasio i drenau pwrpasol ar y lein yma ar ein pwys ni.

“Tri chwarter milltir o le mae’r ddamwain wedi digwydd, mae yna le pasio pwrpasol, felly mae yna gwestiwn sylfaenol pam fod y trên o gyfeiriad Amwythig wedi methu â stopio fan hynny fel sy’n arferol, a beth ydi sail hynny?”

Datganiad Llywodraeth Cymru

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, wedi ymateb i’r digwyddiad ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod eu “meddyliau gyda phawb”.

Dywed y bydd y rheilffordd i’r dwyrain o Fachnlleth ynghau tra bod ymchwiliad ar y gweill, a bod Trafnidiaeth Cymru’n annog pobol i beidio teithio i’r rhan yma o’r rhwydwaith yn y cyfamser.

Dywed ei fod yn “hynod ddiolchgar i’r gwasanaeth brys” oedd wedi ymateb i’r digwyddiad.

“Diogelwch ein teithwyr a’n staff yw ein prif flaenoriaeth bob tro,” meddai.

Ychwanega fod Trafnidiaeth Cymru’n cydweithio’n agos â’r holl asiantaethau eraill, gan gynnwys y gwasanaethau brys ac ymchwilwyr RAIB, “er mwyn deall sut ddigwyddodd y digwyddiad hwn”, a dywed fod ganddyn nhw ei “gefnogaeth lawn”.