Kali Creed Green yw enw’r babi pedwar mis oed fu farw yn Sir Benfro ddydd Gwener (Hydref 18).

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Glunderwen gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn sgil pryderon am blentyn tua 1:45yp.

Bu farw’r plentyn yn y fan a’r lle, a chafodd dau berson, dynes 19 oed a dyn 23 oed, eu harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn.

Maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth, wrth i’r heddlu wneud ymholiadau pellach.

Dywed yr heddlu fod marwolaeth Kali Creed Green yn cael ei thrin fel un “anesboniadwy”, a bod y crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.