“Allwn ni ddim fforddio colli tir maint 31 o ffermydd” i wneud lle i baneli solar, yn ôl Aelod Seneddol Ynys Môn.
Bydd Llinos Medi, sy’n cynrychioli Plaid Cymru, yn arwain dadl yn San Steffan ar brosiectau ynni ar raddfa fawr heddiw (dydd Mawrth, Hydref 22).
Byddai prosiect arfaethedig Maen Hir Energy a phrosiect Alaw Môn Enso Energy yn gorchuddio 3,700 erw o dir fferm yn bennaf, sef tua 2% o Ynys Môn.
Mae prosiect Maen Hir Energy, sy’n cael ei ddatblygu gan Lightsource BP, tua phum gwaith maint fferm solar fwyaf gwledydd Prydain, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn gwneud y penderfyniad olaf, yn sgil ei maint.
Gallai tir sy’n cyfateb i 31 o ffermydd maint cyfartalog gael ei orchuddio mewn paneli solar fyddai â’r capasiti i greu 350MW o drydan ar dri safle.
Mae’r safleoedd hynny yn Rhosgoch, tir i’r de o Lannerchymedd, a glannau gogleddol Llyn Alaw.
‘Llefydd gwell i baneli solar’
Mae Llinos Medi yn galw am ddull mwy cynaliadwy sy’n cydbwyso datblygu ynni adnewyddadwy gyda diogelu diogelwch bwyd a diwydiannau lleol.
“Gallai cynlluniau ar Ynys Môn weld tir sy’n gyfatebol â 31 o ffermydd yn cael ei golli i baneli solar,” meddai cyn y ddadl.
“Ar adeg pan fo diogelwch bwyd yn bryder cynyddol, mae angen inni gadw ein tir fferm, nid ei golli i brosiectau ar raddfa ddiwydiannol.
“Gyda dim ond 6% o lysiau sy’n cael eu gweini yn ysgolion Cymru yn cael eu tyfu yng Nghymru, dylem fod yn cynyddu, nid yn lleihau faint o fwyd rydym yn ei dyfu ar ein tir.
“Nid ydym yn dweud ’na’ wrth ynni solar, ond rhaid ei wneud yn gallach.
“Mae lleoedd gwell ar gyfer paneli solar – safleoedd tir llwyd, toeau, a meysydd parcio – yn hytrach na chael gwared ar dir amaethyddol gwerthfawr sy’n bwydo ein cymunedau.”
Dywed ei bod hi’n bosib cyrraedd targedau hinsawdd ac amddiffyn diogelwch bwyd, yr economi a’r ffordd o fyw drwy gydgysylltu cynlluniau diogelwch ynni gyda chynlluniau diogelwch bwyd.
“Mae hynny’n golygu meddwl yn fwy gofalus am ble mae’r prosiectau hyn yn mynd, a sut maen nhw’n effeithio ar ein cymunedau,” meddai.