Mae dau o bobol wedi pledio’n euog, ac 16 wedi pledio’n ddieuog, i gyhuddiadau o fod yn rhan o derfysgoedd yn Nhrelái y llynedd.

Mae un ohonyn nhw hefyd wedi pledio’n euog i gyhuddiadau’n ymwneud â chyffuriau.

Dechreuodd y terfysgoedd ar Fai 22 y llynedd, pan gafodd Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, eu lladd mewn gwrthdrawiad.

Mae 27 o bobol wedi’u cyhuddo o fod yn rhan o’r terfysgoedd hyd yma, tra bod pedwar arall wedi’u cyhuddo o achosi neu fygwth achosi difrod troseddol.

Cyhuddiadau

Mae Llys y Goron wedi dechrau cynnal gwrandawiadau fesul grwpiau.

Plediodd Kyle Telemaque, 19 oed o Drelái yn euog i fod â rhan mewn terfysgoedd ac i gyhuddiadau o gyflenwi canabis.

Plediodd Jumana Fouad, 18 oed o Drelái, yn euog i gyhuddiad yn ymwneud â’r terfysgoedd ddigwyddodd pan oedd hi’n 16 oed ond a gafodd ei chyhuddo ar ôl troi’n 18.

Doedd dim rhaid i Callum O’Sullivan, 23 oed o Drelái, gyflwyno ple.

Fe wnaeth McKenzie Danks, 21 oed o Gaerau, wadu bod â rhan mewn terfysgoedd ond plediodd yn euog i ymosod drwy guro dau blismon.

Fe wnaeth y canlynol wadu bod â rhan yn y terfysgoedd: Lianna Tucker, 18 oed o Drelái; Michaela Gonzales, 26 oed o Drelái; Jayden Westcott, 20 oed o Drelái; Jamie Jones, 23 oed o Lanrhymni; Luke Williams, 31 oed o Drelái; Connor O’Sullivan, 25 oed o Gaerau; Zayne Farrugia, 24 oed o Gaerau; Lee Robinson, 37 oed o Gaerdydd; Jaydan Baston, 20 oed o Gaerau; Harvey James, 18 oed o’r Tyllgoed; Jordan Webster, 28 oed o Drelái; Kieron Beccano, 25 oed o Sain Ffagan; Ashdon O’Dare, 26 oed o Drelái; Jordan Bratcher, 26 oed o Lanisien; a McKenzie Pring, 19 oed, oedd wedi ymddangos trwy gyswllt fideo o garchar y Parc.

Does dim dyddiad wedi’i bennu ar gyfer yr achosion llys eto, a bydd gwrandawiad pellach ar Dachwedd 1.

Cafodd pymtheg o blismyn eu hanafu yn y terfysgoedd, a chafodd eiddo ei ddifrodi a cheir eu llosgi.