Mae Aelod Llafur o’r Senedd wedi ceisio barn ei ddilynwyr ar X (Twitter gynt) am gymorth i farw.
Daw sylwadau Hefin David, sy’n cynrychioli etholaeth Caerffili, ar drothwy dadl yn San Steffan yr wythnos hon, wrth i Lywodraeth Cymru awgrymu y bydd aelodau’n cael pleidlais rydd ar y mater pan ddaw’r drafodaeth i’r Senedd yng Nghaerdydd.
Julie Morgan, yr Aelod Llafur dros Ogledd Caerdydd, fydd yn cyflwyno’r ddadl ym Mae Caerdydd.
“Yr wythnos nesaf, bydd dadl Aelod yn y tŷ hwn ar gymorth i farw, wedi’i chyflwyno gan Aelodau tair plaid wleidyddol wahanol, a bydd hyn cyn Bil yr Aelod preifat sydd ar ddod yn San Steffan, ac rwy’n falch iawn y bydd cyfle gennym ni i gael y ddadl hon yma yng Nghymru,” meddai yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf.
“Roeddwn i eisiau gofyn i arweinydd y tŷ: beth fydd safbwynt y Cabinet yn y ddadl hon?
“A fydd aelodau’r Cabinet yn gallu cael pleidlais rydd ar y mater o gydwybod hwn, yn hytrach na pheidio â phleidleisio, fel y maen nhw fel arfer, ar ddadleuon Aelodau?”
Wrth ateb, dywedodd Jane Hutt ei bod hi’n “ddadl bwysig iawn”.
“Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn eich bod chi wedi cyflwyno’r cwestiwn hwn yr wythnos hon, oherwydd gall atgoffa pobol o’r hyn sy’n digwydd yr wythnos nesaf, sy’n ddadl bwysig iawn, dadl Aelod yr ydych chi wedi’i chyflwyno, gyda chefnogaeth, ar gymorth i farw,” meddai.
“Rydyn ni’n ymwybodol, er mwyn rhoi cyd-destun i gyd-Aelodau, bod Bil Cymorth i Farw i Oedolion sydd â Salwch Terfynol yr Arglwydd Falconer wedi cael ei ddarlleniad cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Gorffennaf eleni.
“Mae’n gynnar iawn yn ei daith, ac rydyn ni’n deall y bydd yr aelod seneddol Kim Leadbeater yn cyflwyno Bil tebyg i Dŷ’r Cyffredin o fewn yr wythnosau nesaf.
“Felly, mae’n amserol iawn ac yn gyfredol, a bydd dadl a phleidlais gychwynnol yn digwydd yn ddiweddarach eleni.
“Rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y mater.
“Mae’n draddodiad seneddol bod pleidleisiau rhydd ar faterion cydwybod.
“Yn wir, mae’r ddadl ddydd Mercher nesaf, ac roeddwn i’n edrych yn ôl, a’r tro diwethaf i ni drafod hyn oedd yn 2014.
“Felly, rwy’n credu bod gennym ni gyfle da nawr i’r Aelodau baratoi, ac mae hyn yn fater o gydwybod o ran y Bil hwn.”
Bil yn San Steffan
Bydd Bil Kim Leadbeater yn ceisio cyfreithlonni cymorth i farw yng Nghymru a Lloegr.
Dydy hi ddim yn aelod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond cafodd ei Bil Aelod ei ddewis ar gyfer pleidlais.
Y tro diwethaf i’r mater fod yn destun pleidlais, roedd gan y Ceidwadwyr fwyafrif yn San Steffan, ond Llafur sydd â’r mwyafrif erbyn hyn.
Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw safbwynt y Blaid Lafur, a chan fod hwn yn Fil Aelod Preifat, bydd llai o amser i gynnal dadl na Bil cyffredin.
Mae disgwyl cynnal ail ddarlleniad ar Dachwedd 29, ac fe allai unrhyw aelod benderfynu tarfu ar y drafodaeth er mwyn rhedeg y cloc i lawr er mwyn dod â’r drafodaeth i ben.
Pe bai yna darfu, byddai angen i 100 o aelodau alw am benderfyniad terfynol ar sail pleidlais cyn iddyn nhw redeg allan o amser am drafodaeth.
‘Anghyfforddus iawn’
Mae Hefin David wedi ceisio barn ar y mater wrth bostio ar X (Twitter gynt), gan gyfeirio at hanes ei dad-cu.
“Mae dadl Julie Morgan ar gymorth i farw ddydd Mercher,” meddai yn ei neges gychwynnol.
“Beth ydych chi’n ei feddwl?
“Dw i’n teimlo’n anghyfforddus iawn gyda’r cysyniad, ond yn gallu gweld sut y byddai’n lleddfu poen unigolyn.
“Rwy’n croesawu safbwyntiau ar hyn, atebion ar agor.”
Yn ystod y drafodaeth, dywed fod marwolaeth ei dad-cu “yn gyfyng-gyngor”.
“Dw i ddim yn sicr ei fod yn ateb hawdd,” meddai.
“Pan oedd fy nhad-cu yn marw, dywedodd y doctor wrth fy nhad y gallai derbyn gorddos bach o morffin, ac roedd e mor wan fel y byddai’n ‘llithro i ffwrdd’.
“Roedd yn gyfyng-gyngor enfawr, ac yn llwybr nad oedd yn cael ei droedio.
“Roeddwn i’n ddeg oed, a dw i’n dal i feddwl amdano heddiw, 37 mlynedd yn ddiweddarach.”