Mae ymgyrchydd brodorol yn Awstralia wedi tarfu ar ddigwyddiad yn Nhŷ’r Senedd yn Canberra, lle roedd Brenin Lloegr newydd draddodi araith.

Fe wnaeth Lidia Thorpe, seneddwr yn nhalaith Victoria, gyhuddo Charles III o hil-laddiad, gan fynnu bod y Goron yn dychwelyd tiroedd i bobol frodorol Awstralia.

Roedd e yno ar gyfer derbyniad yng nghwmi Anthony Albanese, prif weinidog y wlad.

Ond fe fu’r ymgyrchydd, sy’n adnabyddus fel ymgyrchydd tros hawliau brodorol, yn gweiddi nad yw hi’n derbyn ei sofraniaeth dros Awstralia.

“Fe wnaethoch chi gyflawni hil-laddiad yn erbyn ein pobol,” meddai, wrth i swyddogion diogelwch geisio’i thywys o’r adeilad.

“Rhowch ein tir yn ôl i ni.

“Rhowch yn ôl i ni yr hyn ddygoch chi oddi wrthym ni – ein hesgyrn, ein penglogau, ein babanod, ein pobol.

“Fe ddinistrioch chi ein tir.

“Rhowch gytundeb i ni.

“Rydyn ni eisiau cytundeb.”