Tôsti Nadolig gyda salsa coriander

Bydd angen cael y mayonnaise a’r salsa yn barod i bawb gael creu eu tôsti Nadolig perffaith. Gall gynnwys tatws rhost, ‘soch mewn sach, sbrowts… beth bynnag sy’n dwyn dy ffansi. Efallai bod 5 munud yn teimlo’n hir yn y badell ond mi fydd werth pob munud i ti gael y frechdan berffaith!

Bydd y salsa yn para hyd at 2 ddiwrnod yn yr oergell os byddi di eisiau ei baratoi ymlaen llaw neu wneud mwy ohono. Sicrhewch fod tymheredd eich oergell yn 5°C neu’n is.

Byddwch angen y canlynol:

I’r salsa

  • 60g o goriander
  • Tsili gwyrdd
  • Llwy fwrdd o sudd lemon
  • ½ llwy de o hadau cwmin wedi eu tostio
  • Ewin o arlleg
  • 60g o olew olewydd
  • Pupur a halen

I’r tôsti

  • Dwy sleisen o fara surdoes
  • 60g o mayonnaise
  • Unrhyw gaws Nadolig o’ch dewis wedi ei gratio, a digonedd ohono (caws caled)
  • 300g o weddillion cinio Nadolig (rwy’n hoffi cymysgedd o dwrci, stwffin a thatws rhost wedi eu malu)
  • 60g o saws llugaeron

Rho gynhwysion y salsa mewn cymysgwr bwyd gyda phupur a halen a’i droi nes creu cymysgedd esmwyth cyn ei dywallt i bowlen.

Taena’r mayonnaise ar ddwy ochr pob sleisen o fara, ac yna llwy fwrdd o’r salsa. Rho hanner y caws ar un sleisen ynghyd a hanner y gweddillion cinio Nadolig ac yna rho’r saws llugaeron am ei ben. Ychwanega’r gweddillion cinioNadolig, ynghyd â gweddill y caws ac yna rho’r sleisen arall o surdoes am ei ben, gyda’r salsa wyneb i lawr.

Rho’r frechdan mewn padell ffrio fawr ar wres canolig am 5 munud bob ochr (nes iddi fod yn euraidd) gan roi ychydig o bwysau ar y frechdan bob hyn a hyn. Cymer ofal wrth droi’r frechdan. Coda’r frechdan o’r badell a’i thorri. Amser i’w mwynhau gydag unrhyw salsa sy’n weddill.

Wrth ailgynhesu bwyd dros ben, dim ond unwaith y dylech chi ei ailgynhesu. Mae hyn oherwydd bod newid tymheredd bwyd dro ar ôl tro yn cynyddu’r siawns y bydd bacteria’n tyfu ac yn achosi gwenwyn bwyd. Oherwydd hyn, mae’n bwysig bod bwyd yn cael ei goginio nes ei fod yn stemio’n boeth, yn hytrach na’i gynhesu, gan y bydd y tymheredd uchel yn lladd bacteria a all fod yn bresennol.

Gallwch ailgynhesu bwyd yn y ficrodon, ar yr hob neu yn y ffwrn. Bydd amserau coginio’n amrywio yn ôl y math o fwyd rydych chi’n ei ailgynhesu, a faint o fwyd rydych chi’n ei ailgynhesu.

Mae gwybod sut i storio, coginio ac ailgynhesu bwyd gartref yn helpu i wella diogelwch bwyd a lleihau gwastraff bwyd. Am fwy o wybodaeth a syniadau i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach, ewch i: https://www.food.gov.uk/nadolig

Mae Medi Wilkinson yn golofnydd bwyd rheolaidd ar golwg360 a gallwch ddarllen ei ryseitiau eraill ar y gwasanaeth.

Asiantaeth Safonau Bwyd