Cwis Mawr y Nadolig 2024 (Rhan 2)

Faint ydych chi’n ei gofio am straeon mawr y flwyddyn a fu?

Dyma ail ran cwis mawr y Nadolig, sy’n edrych yn ôl ar rai o’r straeon yn ystod y flwyddyn a fu… Faint ydych chi’n ei gofio?

 

 

 

 

 

 

 

Cwestiwn 1

Pwy enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024?


Cwestiwn 2

Pwy gafodd eu penodi yn Brif Weithredwr newydd S4C ym mis Tachwedd?


Cwestiwn 3

Yn ôl arolwg gan Opinium, faint o bobol ifanc dan ddeunaw oed oedd ddim yn gwybod enw eu haelod seneddol?


Cwestiwn 4

Cafodd Iestyn Tyne ei benodi yn Fardd Tref cyntaf pa dref?


Cwestiwn 5
BAFTA CymruBAFTA Cymru

Pa actor enillodd wobr Siân Phillips yng ngwobrau BAFTA Cymru ym mis Hydref am ei gyfraniad arbennig i fyd ffilm a theledu?


Cwestiwn 6

Fe fu 'Pobol y Cwm' yn dathlu hanner can mlynedd ers i’r bennod gyntaf gael ei darlledu yn 1974. Beth oedd llinell agoriadol Harri Parri?


Cwestiwn 7
Llun gan S4C

Bu’r rhaglen 'Beti a’i Phobol' ar Radio Cymru yn dathlu carreg filltir arbennig. Ers faint o flynyddoedd mae wedi cael ei darlledu?


Cwestiwn 8
Eisteddfod Genedlaethol

Pa opera roc gafodd ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni?