Mae enillwyr 33ain Gwobrau BAFTA Cymru wedi cael eu cyhoeddi heno (nos Sul, Hydref 20) mewn seremoni arbennig yn ICC Cymru yng Nghasnewydd, dan arweiniad y cyflwynydd teledu Owain Wyn Evans.
Gwobrau BAFTA Cymru yw’r dathliad blynyddol mwyaf o ragoriaeth greadigol ym myd ffilm a theledu Cymru.
Cafodd Chuck Chuck Baby ddwy wobr – Ffilm Nodwedd/Deledu ac enillodd Janis Pugh wobr Torri Trwodd Cymru am ei gwaith ar y ffilm.
Steeltown Murders enillodd y categori Drama Deledu, gyda Dawn Thomas Mondo yn derbyn gwobr Dylunio Gwisgoedd.
Bachodd Strike! The Women Who Fought Back ddwy wobr, gyda Jess Howe yn ennill Cyfarwyddwr: Ffeithiol a’r rhaglen ei hun yn ennill y wobr Rhaglen Ddogfen Sengl.
Enillodd Annes Elwy ei gwobr BAFTA Cymru gyntaf am Actores am ei pherfformiad yn Bariau, a chafodd Ncuti Gatwa ei Wobr BAFTA Cymru gyntaf am Actor yn Doctor Who.
Yn ymuno â’r enillwyr tro cyntaf mae Matthew Barry, dderbyniodd wobr Awdur am Men Up.
Aeth y wobr Rhaglen Adloniant i Max Boyce at 80, ac yn cyrraedd y brig yn y wobr Cyfres Ffeithiol roedd Y Frwydr: Stori Anabledd, lle mae’r actores enillodd y wobr Torri Trwodd y llynedd, Mared Jarman, yn mynd ar daith i ddysgu am hanes anabledd yng Nghymru.
Enillodd Euros Lyn y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen am Heartstopper, derbyniodd Bryan Gavigan y wobr Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen am ei waith ar The Passenger, a’r Tîm Sain ar gyfer Wolf enillodd y wobr Sain.
Dyfarnwyd Ffotograffiaeth: Ffeithiol i Theo Tennant am y ffilm fer Frontier Town, aeth gwobr y Rhaglen Blant i Sêr Steilio, ac yn cyrraedd y brig am Ffilm Fer roedd Smile.
Y cynhyrchydd, Julie Gardner MBE enillodd y wobr Cyfraniad Arbennig, gafodd ei chyflwyno gan y Cynhyrchydd Gweithredol a chyd-sylfaenydd Bad Wolf, Jane Tranter.
Cyflwynodd yr actores Nia Roberts Wobr Siân Phillips i Mark Lewis Jones.
Cafodd cyfanswm o 21 o wobrau cystadleuol eu cyflwyno ar y noson, yn ogystal â dwy wobr BAFTA arbennig.
Ymhlith partneriaid a chefnogwyr Gwobrau BAFTA Cymru mae BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Coco & Cwtsh, Cymru Greadigol, Deloitte, EE, Executive Cars Wales, Gorilla, Hildon, Lancôme, S4C, Villa Maria a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.