Bwncath, Gwilym, Fleur de Lys ac Adwaith fydd prif artistiaid Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y flwyddyn nesaf.
Bydd tocynnau bargen gynnar ar werth fore Mercher (Rhagfyr 4).
Gydag albwm newydd ar y ffordd y flwyddyn nesaf, Bwncath fydd prif fand nos Fercher, gyda Gwilym yn cloi nos Iau ar brif lwyfan Maes B.
Yn dilyn eu llwyddiant ym Maes B Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, Fleur de Lys fydd yn cloi nos Wener, ac Adwaith, sydd hefyd yn rhyddhau eu halbwm diweddaraf hirddisgwyliedig y flwyddyn nesaf, fydd yn cloi Maes B 2025 nos Sadwrn.
Bydd rhagor o gyhoeddiadau i ddod yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys lein-yps y bandiau, DJs ac amryw o brofiadau newydd a chyffrous.
Tocynnau
Bydd tocynnau ar werth am 10 o’r gloch ddydd Mercher drwy wefan Maes B.
Bydd tocynnau bargen gynnar ar gael am £120 am docyn cyfnod, sy’n cynnwys gwersylla, tocyn i holl gigs Maes B, a mynediad i Faes yr Eisteddfod.
Nifer gyfyngedig o docynnau bargen gynnar sydd ar gael cyn i’r pris godi i £130.
Bydd Maes B yn rhedeg o Awst 5-9, 2025.