“One night, one night, oooooooooo,
one night in C-E-F-N
Canai’r DJ yng Nghlwb XS
nôl yn y ‘90au,
pan oedd M People yn ‘top of the pops’,
a minnau ddim ond jyst yn ddigon hen
i fod ene yn gweini diodydd.
Cefn. Cefn Mawr.
Big back – why’s it called that?
Dyma oedd fy unig atgofion am yr ardal hon, nes i mi weithio ar brosiect celfyddydol yno yn ddiweddar. DJ direidus y clwb nos lle roeddwn yn gweithio yn fy arddegau, yn plagio clubbers – oedd fwy na thebyg o Gefn – ac yna fi a fy mrawd yn synfyfyrio am yr enw od (fel roedden ni yn ei weld e beth bynnag!). Ac felly, fel hyn y dechreuais un o’r cerddi comisiwn sgwennais yn ddiweddar.
Prosiect Y Bont Sy’n Cysylltu
Mae ‘Y bont sy’n cysylltu’ yn brosiect celf gymunedol, dros bedair cymuned hanesyddol o fewn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO: Trefor, Froncysyllte, Cefn Mawr, a’r Waun.
Caiff y prosiect ei ddarparu gan Glandŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru, ac mae wedi’i ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cefais innau rôl fel Ymarferydd Creadigol i’r dyddiau agored, lle buom yn sgwrsio hefo trigolion cymunedau lleol, gan gofnodi’r wybodaeth a’r storïau roedden nhw’n eu rhannu hefo ni. Yna, fel bardd lleol, fy nhasg oedd gweithio hefo’r nodiadau yma i baratoi cerddi. A dyna be wnes i, gan blethu fy mhrofiadau i mewn iddyn nhw hefyd.
Braint fawr oedd cael dysgu cymaint gan rai o’r haneswyr lleol am y diwydiannau trwm a sut wnaethon nhw siapio holl ardaloedd dinas-sir Wrecsam.
Wnes i fwynhau gwrando ar hanes y clai prin gaiff ei ddefnyddio ar hyd a lled y byd i wneud briciau hardd – a synnais wrth glywed am y clai glas oedd, yn ôl pob sôn, yn fwy caled fyth na’r ‘Ruabon red’ enwog; roedd y clai glas yn dda ar gyfer gwneud ‘brics peirianneg’.
A gwirionais ar y bwrlwm ym mhob un o’r ardaloedd, gan gynnwys yr hyn wnes i ei enwi’n ‘ddadeni’ yng Nghefn Mawr.
Aildanio cymuned ôl-ddiwydiannol hardd
Wrth gyrraedd ardal Cefn Mawr, synnais ar ba mor brydferth oedd yr ardal, gyda golygfeydd tebyg i rai Llangollen! Dim ond afon Dyfrdwy oedd ar goll, a dweud y gwir, a doedd dim rhaid brwydro dros le i barcio – na thalu crocbris chwaith!
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yng Nghanolfan Ebenezer, sef hen Gapel y Bedyddwyr, ddaeth yn ddiweddar yn Ganolfan Ymwelwyr Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte. Mi fedrwch chi eu dilyn nhw ar TikTok, lle cewch weld fod yna rywbeth hwyliog ymlaen o hyd!
Roedd y lle’n fwrlwm o greadigrwydd a balchder y gymuned leol, a’r gymuned ehangach yn Wrecsam – rhywbeth oedd yn hyfryd ei weld.
Daeth un o fy ffrindiau i mewn i weld beth oedd yn mynd ymlaen, a hithau ond wedi picio draw i Gefn o Riwabon i flasu’r cacennau hyfryd yn ‘Moonbakes’, a hithau wedi’u gweld nhw ar hysbysfwrdd Wrecsam ar Facebook.
Yn wir, wrth drafod y prosiect yn y dyddiau wedyn hefo ffrindiau ar hyd a lled Wrecsam, roedd sawl un wedi bod draw i Gefn yn ddiweddar am yr un un rheswm!
Bara beunyddiol
Wel, digywilydd braidd, felly, fyddai peidio ymweld â Moonbakes, ynde? Felly es draw a chael gair hefo’r perchennog, Jason Rogers. Ar ôl 25 mlynedd fel cogydd, aeth Jason ati ym mis Chwefror i wireddu ei freuddwyd o agor becws yng Nghefn.
Mae ymateb y gymuned leol wedi bod yn anhygoel, gan gynnwys pobol yn wfftio’r Tesco mawr gerllaw, a gofyn i Jason pobi torthau ffres iddyn nhw gael eu prynu yn feunyddiol!
Mi fedraf i dystio fod yna gacen ddi-glwten neu ddwy ar gael sy’n blasu’n fendigedig! Ac yn ystod yr ŵyl dros y penwythnos, roedd brechdanau ar baps di-glwten ar gael hefyd – braf!
Mae yna artist hefyd o’r enw Charlie Hathaway, sydd wedi sefydlu busnes yn rhoi gweithdai crochenwaith yn yr ardal – ‘Nook Arts Cefn Mawr’ ar Facebook.
Ac wrth gwrs, yng nghanol yr adfywiad, yn sefyll fel carreg sylfaen, mae tafarn yr Holly Bush, sydd â hanes hir a chysylltiad â’r bont ddŵr.
Gwaddol
Perfformiais fy ngherddi yn Neuadd George Edwards, ac yno y dysgais am lwyth o ddigwyddiadau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r adeilad allweddol hwn.
Ac wrth synfyfyrio, mae’n rhaid dweud y gwnes i ryfeddu ar waddol prosiect ‘Y Bont sy’n Cysylltu’. Dros y penwythnos, wnes i gwrdd â chymaint o bobol ryfeddol a chlywed am gymaint o bethau creadigol ar hyd a lled y pedair ardal, mae hi wir wedi dod â llawer ohonom ynghyd, a dw i’n llawn syniadau newydd a gobeithion at y dyfodol.
Un peth sy’n sicr. Dw i mo’yn bod yn rhan o’r dadeni sy’n datblygu draw yng Nghefn Mawr – ac mae hi’n ardal werth ei rhoi ar eich cerdyn bingo Steddfod ‘cw, wrth ymweld â Wrecsam y flwyddyn nesaf!