Mae band Gwyddelig wedi ennill her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig.

Roedd Kneecap yn gwrthwynebu penderfyniad Kemi Badenoch, Ysgrifennydd Busnes San Steffan yn y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, i beidio rhoi gwerth £14,250 o gyllid iddyn nhw.

Mae’r band yn gwrthwynebu’r Undeb, a dyna’r rheswm gafodd ei roi am beidio rhoi’r arian iddyn nhw.

Clywodd yr Uchel Lys yn Belfast fod y penderfyniad yn un “annheg”.

Cefndir

Dechreuodd yr achos pan wnaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ymyrryd er mwyn atal y band rhag derbyn gwobr ffonograffig sy’n cefnogi bandiau mewn marchnadoedd byd-eang.

Cafodd y wobr ei chymeradwyo gan fwrdd dethol Diwydiant Ffonograffig Prydain (BPI), gan ddyfarnu cyllid i’r band o dan y Cynllun Twf Allforion Cerddorol (MEGS).

Ar y pryd, dywedodd Kemi Badenoch, sydd bellach yn arwain y Blaid Geidwadol, nad oedd yn “syndod” eu bod nhw’n amharod i “roi arian trethdalwyr” i gefnogi band sy’n gwrthwynebu’r Undeb.

Bydd yr arian mae’r band wedi’i ennill yn sgil yr achos llys yn cael ei roi i achosion lleol yn Belfast, gan gynnwys Glór na Móna, sy’n cefnogi twf yr iaith Wyddeleg yng ngorllewin y ddinas.

Mae’r band wedi’i enwebu ar gyfer gwobr ryngwladol yn yr Oscars am eu ffilm Kneecap, sy’n adrodd eu hanes eu hunain.

‘Cydraddoldeb’

Yn ôl Kneecap, nid yr arian oedd yn bwysig iddyn nhw, ond yn hytrach sicrhau cydraddoldeb.

“Roedd hwn yn ymosodiad ar ddiwylliant artistig, yn ymosodiad ar Gytundeb Gwener y Groglith ei hun, ac yn ymosodiad ar Kneecap a’n ffordd o fynegi ein hunain,” meddai’r band mewn datganiad.