Bydd un o actorion enwocaf Cymru’n dychwelyd adref o’r Unol Daleithiau i’r sgrîn fach yng Nghymru, wrth iddi serennu mewn cyfres ddrama newydd sbon ar S4C dros y Nadolig.

Fe fu Erin Richards yn serennu mewn rhaglenni teledu poblogaidd megis Gotham a The Crown dros y blynyddoedd diwethaf.

Wedi iddi ddod yn ôl i Gymru, bydd hi’n chwarae’r brif ran fel ynad yn yn y ddrama drosedd chwe rhan Ar y Ffin.

Mae’r ddrama wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, ac mae’n dilyn yr ynad profiadol Claire Lewis Jones wrth iddi wynebu helbulon personol tra ei bod hi’n goruchwylio achosion yn Llys Ynadon y ddinas.

‘Byd mor real’

Mae Ar y Ffin wedi’i hysgrifennu gan yr actores Hannah Daniel, sy’n adnabyddus am ei gwaith yn y ddrama Un Bore Mercher, a Georgia Lee, sydd hefyd yn gweithio fel ynad rhan amser.

“Mae’n sefyllfa ddiddorol achos mae’n swydd wirfoddol ac eto mae gennych chi lot o bŵer – mae rhai o’r penderfyniadau yn ddwys iawn, felly roedd hwnnw’n ddechrau,” meddai Georgia Lee.

“Wnaethon ni gymryd Claire fel ein man cychwyn ac roedden ni eisiau creu cymeriad gwirioneddol foesol a dychmygu beth fyddai angen digwydd iddi fod eisiau llywio cyfiawnder, yn y bôn.”

Dywed Erin Richards mai safon y sgript a nerth y prif gymeriad oedd wedi ei denu hi at y gyfres.

“Wnes i ddarllen y tair pennod gyntaf i ddechrau, ac ro’n i’n teimlo bod Claire yn gymeriad mor ddiddorol ac mewn byd mor real; ro’n i’n ysu i ddarganfod i ble roedd ei stori hi’n mynd, sydd wastad yn arwydd da yn fy marn i,” meddai.

“Ro’n i’n teimlo mod i’n gallu cydymdeimlo â Claire.

“Ro’n i’n gallu teimlo fy hun yn y cymeriad.”

Yn serennu ochr yn ochr ag Erin Richards mae Tom Cullen, fu’n actio cymeriad y drwgweithredwr Saint Pete yn Downton Abbey.

‘Yr amser gorau’

Ymysg aelodau eraill y cast mae Matthew Gravelle, Lauren Morais, Lloyd Meredith, Kimberly Nixon, Siôn Pritchard ac Ifan Huw Dafydd.

Mae’r gyfres yn gyd-gomisiwn rhwng S4C, UKTV ac All3Media International, a bydd yn darlledu fel Mudtown ar sianel drosedd UKTV, U&alibi y flwyddyn nesaf.

Wrth sôn am ei phrofiadau’n ffilmio’r gyfres, dywed Erin Richards iddi gael “yr amser gorau erioed”.

“Dw i wedi treulio llawer o ‘ngyrfa i’n actio yn America, sydd hefyd yn wych, ond roedd rhywbeth braf iawn am ddod adref i Gymru,” meddai.

“Roedd y criw mor hyfryd a chyfeillgar.

“Wnaethon ni i gyd fondio mor gyflym.”

Mae’r ddrama’n dechrau ar S4C ar Ragfyr 29.

Bydd bocset ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer bryd hynny hefyd.