Bydd bragdy yn Llŷn yn codi gwydryn i ddathlu cael caniatâd cynllunio i ehangu eu gwaith yng Ngwynedd.
Mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd amodol i gais llawn gan gwmni Cwrw Llŷn i ddatblygu bar newydd.
Mae’r bragdy wedi’i leoli ym Mharc Eithin, parc diwydiannol ar Ffordd Dewi Sant yn Nefyn.
Yr wythnos hon, mae cynllunwyr wedi cytuno i gais llawn ar gyfer “estyniad i’r bragdy presennol i ddarparu bar ychwanegol ac addasiadau allanol i’r tirlun”.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Euron Griffiths o gwmni Cwrw Llŷn drwy law’r asiant Mari Evans o Benseiri Saer.
Bragdy annibynnol
Mae’r bragdy a bar sydd wedi’u hen sefydlu ac sy’n cyflogi chwe aelod staff llawn amser a phum aelod staff rhan amser, yn disgrifio’u hunain ar eu gwefan fel “bragdy bach annibynnol” sy’n cynhyrchu cwrw blasus llawn cymeriad o chwerw â blas brag cyfoethog i gwrw aur ysgafn.
Maen nhw’n dweud bod yr “ysbrydoliaeth” ar gyfer cwrw lleol yn dod o bobol leol, llefydd, chwedlau Cymreig, y tirlun a bwyd.
Mae’r cais cynllunio’n ymwneud ag ardal 1,635.06 metr sgwâr ar y safle diwydiannol.
Yn ystod y cais, roedd uned drafnidiaeth y Cyngor a Chyngor Tref Nefyn ill dau wedi cadarnhau nad oedd ganddyn nhw wrthwynebiad i’r cynllun.
Ond ymhlith yr amodau gafodd eu cyflwyno i’r caniatâd cynllunio roedd y ffaith fod cynllunwyr yn mynnu y “dylai’r gorffeniad allanol arfaethedig i’r estyniad ac unrhyw addasiadau allanol gyfateb i’r adeilad presennol o ran lliw a gwead”.
Rhaid i’r cynlluniau “gydymffurfio’n llym” â pholisïau, ac ni all ddechrau ymhen “mwy na phum mlynedd”.
Roedd amod hefyd “na fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd hyd nes bod cynllun datblygu bioamrywiaeth wedi’i gyflwyno a’i gytuno’n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol”.
Roedd y materion wedi cael eu hystyried “er budd cyfleuster” ac er lles “cynnal a datblygu bioamrywiaeth”, medd dogfennau cynllunio.
Mae’r cynlluniau hefyd yn disgrifio’r defnydd o’r bragdy fel Dosbarth: A3 – ar gyfer bwyd a diod, gan restru amserau dechrau’r busnes o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.30yb a 9yh, a dechrau am 1yp ddydd Sadwrn a gorffen am 9yh.
Roedd y cynllunwyr hefyd wedi annog yr ymgeiswyr i roi ystyriaeth i sylwadau gan Dŵr Cymru.
Roedden nhw wedi ychwanegu amod “na fydd dŵr wyneb o gynyddu ardal to’r adeilad a/neu wynebau anhydraidd o fewn ei libart yn cael draenio’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol i mewn i’r system garthffosiaeth gyhoeddus”.
Y rheswm gafodd ei roi oedd “atal gorlwytho hydrolig ar y system garthffosiaeth gyhoeddus, gwarchod iechyd a diogelwch trigolion presennol, a sichrau nad oes llygredd na niwed i’r amgylchedd”.