Wrth i’r tywydd galedu, mae Cyngor Sir Powys yn gofyn i drigolion y sir roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw’n amau bod rhywun yn cysgu ar y stryd.

Yn ogystal, maen nhw’n galw ar unrhyw un sy’n teimlo bod eu sefyllfa dai’n fregus i gysylltu â nhw am gymorth.

Mae modd cysylltu â Gwasanaeth Tai’r Cyngor drwy ffonio 01597 827464 neu e-bostio housing@powys.gov.uk.

‘Datrys digartrefedd’

“Er mai cysgu ar y stryd yw’r math mwyaf difrifol o ddigartrefedd ac mae’n rhaid ei osgoi pryd bynnag y bo modd, mae’n arbennig o bwysig i fod yn ymwybodol ohono pan fydd y tywydd yn oeri,” meddai’r Cynghorydd Matthew Dorrans, dirprwy arweinydd y Cyngor, a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Bowys Decach.

“Bob tro y byddwn yn cael gwybod am rywun sy’n cysgu ar y stryd, byddwn yn ymchwilio ac yn ceisio gweithio gyda’r unigolyn i ddatrys ei ddigartrefedd, gan gynnwys lle bo modd, dod o hyd i lety dros dro.”

Ychwanega’r Cynghorydd Huw Williams, sy’n cynrychioli etholaeth Ystradgynlais ac Aber-craf, nad oes “neb yn amlwg ar strydoedd Ystradgynlas ar hyn o bryd”, ond ei bod yn “dal yn hynod bwysig hysbesebu’r gwasanaeth”.