Bydd yn rhaid aros tan ddiwedd 2026 i weld gwelliannau yn amserlen trenau’r gogledd, yn ôl Trafnidiaeth Cymru.

Fe wnaethon nhw gyhoeddi “newidiadau mawr” i’w hamserlenni yr wythnos ddiwethaf, fydd yn dod i rym ar Ragfyr 15.

Bydd y newidiadau’n effeithio ar lwybrau sy’n rhedeg ar draws y de, ac o Gaerdydd i Amwythig a Crewe.

Er bod y newidiadau i gynyddu amlder trenau wedi’i groesawu gan nifer, mae rhai yn y gogledd yn flin nad oes unrhyw newid penodol yn y gogledd.

‘Bwriad i gynyddu nifer y trenau yn y gogledd’

Dywed Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, fod Trafnidiaeth Cymru “yn wreiddiol wedi bwriadau gwneud y newidiadau” yn y gogledd.

“Ond mae yna gwpl o groesfannau rheilffordd, yn enwedig yn ardal Prestatyn, sydd yn edrych yn fwy peryglus,” meddai wrth golwg360.

“Pe baen ni yn dewis rhoi mwy o drenau ar eu traws nhw, byddai hyn yn cynyddu lefel y risg.”

Yng ngwledydd Prydain, mae model asesiad risg yn cael ei ddefnyddio ar reilffyrdd, o’r enw All Level Crossing Risk Model, neu ‘ALCRM’.

Mae’r model yn ystyried gwahanol elfennau, megis faint o ddamweiniau sydd wedi bod yno, pa fath o groesfan ydi hi, a chyflymder y trenau.

Yn ôl Colin Lea, dydy hi ddim yn bosib cynyddu nifer y trenau sy’n teithio ar hyd arfordir y gogledd drwy Brestatyn ar hyn o bryd.

Dywed ei fod yn disgwyl i hynny newid ar ôl i bont gael ei hadeiladu wrth ymyl y groesfan.

“Rydym i ffwrdd rŵan yn ceisio darganfod yr arian ac yn gwneud y dyluniad ac yn gweithio efo’r awdurdodau cynllunio i adeiladu pont,” meddai.

Ychwanega mai £4m fydd cost adeiladu’r bont, a’r “gobaith” yw y bydd hi’n barod rywbryd rhwng haf a diwedd 2026.

Newid i amserlen Llinell y Cambrian yn gynt

Yn ôl Colin Lea, mae’n bosib y bydd gwelliannau ar Linell y Cambrian yn digwydd yn gynt.

Dywed fod system signalau unigryw rhwng Aberystwyth a Phwllheli o’r enw’r ‘ETCS’, a bod angen mecanwaith unigryw o fewn y fflyd newydd.

“Mae gennym ni dri neu bedwar [o drenau efo’r mecanwaith] erbyn rŵan,” meddai.

“Ond mae’n rhaid i ni dderbyn nifer fawr cyn i ni gychwyn y broses o allu newid y trenau drosodd o’r hen fflyd.”

Ychwanega ei fod yn gobeithio y gall ddigwydd yn ystod haf 2025.

‘Trawsnewidiol’

Yn ôl Colin Lea, mae’r newid i’r amserlen yn rhan o’r broses o gynyddu ffydd defnyddwyr y trenau yng Nghymru mewn gwasanaethau.

Dywed y gall ragweld byd lle bydd pobol yng Nghymru yn “gallu defnyddio eu ffonau neu gardiau credyd i neidio ar bob math o drafnidiaeth” yng Nghymru yn ddigon rhwydd.

“Os ydyn ni’n cyrraedd y fan lle mae amserlenni yn gweithio efo’i gilydd, mae yna integreiddio da, ac mae prisiau yn gweithio i bawb, mi allai fod yn drawsnewidiol i Gymru.”

Ychwanega fod Trafnidiaeth Cymru “yng nghanol y broses”, ond fod yna “fwy y gellir ei wneud” bob amser.