Mae ymgyrch ar droed i achub stiwdio gwydr lliw yn Abertawe sydd mewn perygl o gau.
Deanne Mangold sy’n berchen ar Class Glass Wales yn Llansamlet ar gyrion y ddinas, ond mae hi’n bwriadu ymddeol yn fuan ar ôl bod yn gweithio o’r stiwdio ers deng mlynedd.
Yno, mae hi’n creu ac yn dysgu disgyblion am dechnegau gwydr lliw traddodiadol.
Pe bai’r stiwdio’n cael ei cholli, hon fyddai’r ail stiwdio o’i math yn yr ardal i gau ei drysau, yn dilyn colli stiwdio Glantawe ar ôl ymddeoliad Tim Lewis, oedd yn darlithio yng Ngholeg Abertawe.
Roedd y ddwy stiwdio o fewn milltir i’w gilydd.
Mae Daniel Mahers, sydd wedi sefydlu’r ymgyrch i achub Class Glass Wales, yn dweud y byddai colli’r ail stiwdio yn gryn ergyd.
“Trwy gymryd drosodd stiwdio Deanne, rwy’n gobeithio cadw cyfleuster ar agor ar gyfer busnes a’r gymuned trwy agor y drysau i artistiaid eraill nad oes ganddyn nhw hyn ar gael gartref, a thrwy redeg dosbarthiadau gwydr lliw.”
‘Angen mwy o le i dyfu’
Yn ôl Daniel Mahers, does ganddo fe ddim digon o le yn ei garej erbyn hyn, ac mae “angen mwy o le i dyfu” arno.
“I mi fy hun, rwy’ wedi dechrau tyfu’n rhy fawr i fy stiwdio fach, gyda phob cornel yn llawn o brosiectau, a rhai prosiectau angen stiwdio gyfan arall.
“Ar ôl fy mhrosiect mawr diwethaf yn Ysgol Tan Y Lan, sylweddolais fod angen mwy o le i dyfu.”
Ac yntau hefyd yn gweithio yn y diwydiant dur, roedd cau’r ffwrneisi ar safle Tata ym Mhort Talbot yn ergyd bellach iddo, ond fe ddigwyddodd ar yr adeg pan ofynnwyd iddo gymryd drosodd oddi wrth Deanne Mangold.
‘Cyfle unwaith mewn oes’
Yn ogystal â bod yn her, lle mae angen iddo godi £14,000 i achub y stiwdio, mae Daniel Mahers yn dweud bod yr ymgyrch hefyd yn cynnig “cyfle unwaith mewn oes” iddo.
“Ar ôl bron i ugain mlynedd, rwy’n teimlo fy mod i wedi dechrau dod o hyd i fy steil,” meddai.
“Ac ar ôl cael fy atgoffa mai fi oedd y person ieuengaf i raddio o Athrofa Addysg Uwch Abertawe mewn Gwydr Pensaernïol, mae’n amser i gymryd cam i fyny yn fy llwybr ac yn y dyfodol, o bosib, i gystadlu yn ur Eisteddfod.”
Ar dudalen apêl Go Fund Me, ychwanega bod cau’r stiwdios yn golygu “rhoi llai o gyfleoedd i artistiaid a hobïwyr addawol fel ei gilydd”.
“Hoffwn fod yr artist gwydr lliw sy’n ceisio gwrthdroi’r duedd hon, ond mae angen eich help arnaf i sicrhau dyfodol fy stiwdio leol drwy gymryd y brydles ac uwchraddio cyfleusterau’r stiwdios a diogelu’r safle yn y dyfodol.
“Bydd hyn yn fy ngalluogi i agor y drysau i artistiaid eraill sydd angen lle a/neu offer i arddangos eu doniau, a gallai ddod yn fan lle gallai artistiaid y dyfodol fynychu dosbarthiadau a chlybiau a gynhelir gennyf fy hun.
“I mi’n bersonol, gallai hwn fod yn gyfle ‘unwaith yn ystod fy oes’ i godi fy mhroffil artistig fy hun, proffil technegau gweithgynhyrchu gwydr lliw traddodiadol, a chadarnhau fy enw i mewn i sîn celf gwydr lliw de Cymru.
“Ond heb gyllid ychwanegol, o bosib, bydd hyn yn dod yn ‘gyfle coll’ i mi.
“Helpwch fi i sicrhau’r stiwdio hon ar gyfer artistiaid y dyfodol yn Abertawe a de Cymru.”