Mae cyfieithiad Saesneg o nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis am gael ei hailgyhoeddi er mwyn nodi canmlwyddiant geni’r awdur.

Cafodd Cysgod y Cryman ei chyhoeddi’n wreiddiol yn 1953, ac mae’r Lolfa yn ailgyhoeddi cyfieithiad Meic Stephens ohoni, Shadow of the Sickle.

Mae’r nofel, sydd wedi’i lleoli ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn adrodd stori am fywyd gwledig Cymru, gan ddarlunio cymeriadau ifainc sy’n ceisio dod o hyd i’w lle yn y byd yn wyneb newid mawr ac yn gwrthdaro â dulliau traddodiadol eu rhieni.

Roedd Islwyn Ffowc Elis, fyddai wedi bod yn gant oed ar Dachwedd 17 eleni, yn un o awduron Cymraeg mwyaf poblogaidd a phwysig yr ugeinfed ganrif, ac mae’n adnabyddus am nofelau megis Yn ôl i Leifior ac Wythnos yng Nghymru Fydd hefyd.

Mae ei waith wedi cael ei ganmol yn Saesneg hefyd, gyda The Times yn ei alw’n “dad y nofel Gymreig fodern”.

‘Dylanwad cryf’

Cafodd y cyfieithiad o Cysgod y Cryman ei gyhoeddi gyntaf yn 1998, a bu farw Islwyn Ffowc Elis yn 2004.

“Nid yw’r ffaith bod Cysgod y Cryman yn fawr ei werth yn y cyfnod hwnnw yn unig yn dystiolaeth i’w bwysigrwydd,” meddai Garmon Gruffudd o’r Lolfa.

“Mae wedi bod yn sylfaenol ar gyrsiau llenyddiaeth Gymraeg ysgolion am ddegawdau ac wedi cael dylanwad cryf ar lawer o siaradwyr Cymraeg ac ysgrifenwyr Cymraeg yn ddiweddarach.

“Yn 1999, fe’i pleidleisiwyd yn nofel Gymraeg fwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif.

“Fel cyhoeddwr sy’n arbenigo mewn llyfrau o Gymru, teimlwn yn gryf y dylem nodi canmlwyddiant genedigaeth Elis trwy wneud cyfieithiad rhagorol Meic Stephens ar gael unwaith eto, fel bod y rhai nad ydyn nhw yn gallu darllen y nofel bwysig hon yn yr iaith wreiddiol yn gallu ei mwynhau.”

Mae Shadow of the Sickle ar gael o’r Lolfa neu o siopau llyfrau lleol, ac mae Cysgod y Cryman dal mewn print ac ar ei hail argraffiad ar bymtheg.