Mae’n “hanfodol bwysig” i sefyllfa’r Gymraeg fod Eisteddfod yr Urdd yn parhau i deithio o amgylch Cymru, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

Fe fu Sioned Williams, sy’n cynrychioli Gorllewin De Cymru, yn siarad â golwg360 am ddyfodiad Eisteddfod Dur a Môr yr Urdd i Barc Margam yn ei hetholaeth yn 2025.

Cafodd pwysigrwydd y model teithiol ei grybwyll yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd yn ddiweddar, wrth i’w chyd-Aelod o’r Senedd Heledd Fychan draddodi dadl fer o’r enw ‘Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024: Sicrhau Gwaddol i’r Gymraeg yn y Cymoedd’.

Dywedodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd sy’n cynrychioli Canol De Cymru, ei bod hi’n awyddus i’r Senedd ystyried gwaddol Eisteddfod Rhondda Cynon Taf i’r Cymoedd o ran yr ardal ei hun, ac i’r Gymraeg gan gofio’r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae natur deithiol yr Eisteddfod yn gwestiwn oesol, gydag ardaloedd yn wynebu her bob blwyddyn wrth godi arian i’w chroesawu i’w bröydd.

Ond fel y Cymoedd, bydd nifer o fanteision i fynd ag Eisteddfod yr Urdd i ardal fel Margam, sydd y tu allan i gadarnleoedd y Gymraeg ond sydd â chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y cymoedd cyfagos serch hynny.

‘Hwb enfawr i hyrwyddo a chynyddu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg’

Mae rhanbarth Gorllewin De Cymru y Senedd yn cwmpasu Aberafan, Aberogwr, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Gŵyr, a Phen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl Sioned Williams, mae croesawu’r Eisteddfod “yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion lleol i hyrwyddo a chynyddu defnydd ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg”.

“Mae pwyllgorau codi arian wrthi dros yr ardal yn cynnal digwyddiadau Cymraeg amrwyiol sy’n dod â phobol ynghyd – o gyngherddau a gigs i nosweithiau cwis a chyri,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny yn barod wedi cynyddu’r cyfleon cymdeithasol i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.

“Bydd yr Eisteddfod yn sicrhau bod plant ysgolion cyfrwng Cymraeg yr ardal yn cael cyfleon newydd, nid yn unig i gystadlu ond hefyd i fwynhau crwydro’r maes a’i holl weithgareddau, a chwrdd â phobol ifanc eraill sy’n medru’r Gymraeg o bob rhan o Gymru.

“Bydd yn medru agor y drws i nifer sy’n dod o aelwydydd cyfrwng Saesneg yn enwedig i weld bod yr iaith yn un fyw ac yn rhywbeth i’w fwynhau.

“Mae’n hanfodol dwi’n meddwl bod yr Eisteddfod yn teithio er mwyn sicrhau bod pob ardal yn cael profi’r bwrlwm a’r cyffro a’r ffocws ar y Gymraeg.

“Mae’n cefnogi’r cymunedau Cymraeg sydd yn yr ardal ac yn codi ymwybyddiaeth ymhlith trigolion sy’n llai cyfarwydd â chlywed yr iaith ac heb brofi gymaint efallai ar y byd diwylliannol cyfrwng Cymraeg.

“Bydd cael yr Eisteddfod ar y stepen drws i drigolion siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn siŵr o ddenu pobol i ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf – i gefnogi eu plant neu jest er mwyn profi arlwy amrywiol yr ŵyl.

“Mae Parc Margam yn lleoliad cyfarwydd, hwylus a hardd.”

Denu pobol ddi-Gymraeg

Wrth anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, does dim dwywaith y bydd denu pobol ddi-Gymraeg at yr iaith yn hanfodol bwysig, ac mae ymdrechion ar y gweill eisoes i wneud hynny yn ardal Eisteddfod Dur a Môr, medd Sioned Williams.

“Rwy’n gwybod fod swyddogion yr Urdd yn lleol wedi bod wrth galon yr holl waith o godi ymwybyddiaeth am ddyfodiad yr Eisteddfod i’r fro ac yn cefnogi’r pwyllgorau apêl gyda’i gweithgareddau,” meddai.

“Rwy’ hefyd yn deall bod yr Urdd yn penodi swyddogion yn benodol er mwyn ymestyn ma’s at ysgolion cyfrwng Saesneg a’r rhai sy’n dysgu’r Gymraeg fel ail iaith er mwyn sicrhau eu bod yn deall pa gyfleon sydd ar gael iddyn nhw ac i sicrhau bod pob person ifanc yn medru bod yn rhan o’r ŵyl.”

Mwy na iaith y dosbarth

Yn hynny o beth, mae Sioned Williams yn credu bod y neges fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, a’i bod hi ar gael yn hawdd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn bwysicach nag erioed.

“Mae’n neges hanfodol bwysig os ydym am weld y Gymraeg yn cael ei chefnogi a’i defnyddio ym mhob rhan o Gymru, a’i bod hi’n cael ei gweld fel rhan o fywyd bob dydd pob ardal,” meddai.

“Ces i fy magu yng nghymoedd y de-ddwyrain, ac roedd gweithgareddau’r Urdd – o’r aelwyd a’r disgos, i’r eisteddfodau a’r gwersylloedd a’r cyrsiau preswyl, yn rhoi cyfleon anhepgor i fi gymysgu â siaradwyr Cymraeg eraill, ac i fwynhau pob math o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fe gwrddais i â’m gŵr am y tro cynta ar gwrs drama’r Urdd!”

Hwb ar ôl cyfnod anodd

Bydd Eisteddfod Dur a Môr yn digwydd yng nghysgod helyntion diweddar gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.

Mae’r dref bellach wedi colli dwy ffwrnais chwith oddi ar safle’r gweithfeydd, gan golli tua 2,000 o swyddi, ac mae’r perchnogion yn dweud y byddan nhw’n codi ffwrnais arc drydan werth £1.25bn ar y safle.

Mae’n golygu bod yr ansicrwydd yn parhau i drigolion y dref a’r ardal sydd wedi bod mor ddibynnol ar y gweithfeydd ar gyfer swyddi a’r economi ers dros ganrif.

Er bod gallu mynd i’r Eisteddfod yn beth bach yn y darlun mawr, mae Sioned Williams yn gobeithio y bydd cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd gweithwyr sy’n dymuno ymweld â’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

“O gofio am yr ergyd economaidd diweddar i’r ardal yn sgil y diswyddiadau yng ngwaith dur Tata, rwy’n gobeithio y bydd modd hefyd i’r Urdd dderbyn cefnogaeth gyllidol gan y Llywodraeth, er mwyn medru sicrhau bod pob teulu yn medru fforddio ymweld â’r Eisteddfod drwy gynllun tocynnau am ddim i deuluoedd incwm is,” meddai.