Wel, daeth Gŵyl yr Hydref i Wrecsam, gyda llwythi o ddigwyddiadau diwylliannol hyfryd wedi ei threfnu yng nghanol y ddinas. Roedd rhain yn cynnwys noson ‘Bragdy’r Beirdd’, a fues i’n ddigon ffodus i fod yn rhan ohoni, ynghyd â thalp go lew o feirdd eraill ‘Voicebox’, a rhai o feirdd adnabyddus eraill y sîn farddol oedd wedi trafaelio draw i ymuno â ni.
Roedd pawb wedi bod yn edrych ymlaen at yr ŵyl. Yn ogystal â’r adloniant, roedd yna si taw ar ddydd Sadwrn, Hydref 5, yma yn yr ŵyl, y byddem yn cael clywed o’r diwedd ble fyddai safle’r Eisteddfod Genedlaethol yma yn Wrecsam flwyddyn nesaf. Yn wir, roeddwn i wedi dechrau ateb pob ymholiad am hyn gan godi llaw a gweiddi ‘Ar y pumed!’
Ond, fel y gwyddoch chi bellach, ni ddigwyddodd hyn, a hynny yn ôl pob sôn oherwydd fod y trafodaethau cytundebol â pherchennog y tir wedi rhygnu ymlaen yn hirach na’r disgwyl.
Dim mwy o gecru am yr oedi
Mae’n rhaid i mi gyfaddef i mi ymuno hefo ychydig o’r tynnu coes am hyn i ddechrau; yn wir, mi wnaeth y sefyllfa fy atgoffa gymaint o’r meme poblogaidd gyda Padmé Amidala ac Anakin Skywalker, nes i mi fynd ati i greu un am yr oedi mewn cyhoeddi – yn y Gymraeg a’r Saesneg – a’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol! (@serensiwenna ar Instagram, gyda llaw).
Ond, mewn gwirionedd, erbyn meddwl, mae gen i rywfaint o gydymdeimlad hefo’r criw sydd wrthi’n ceisio gwirio’r safle. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn glamp o ŵyl erbyn hyn, a dyma lle rydym yn ceisio ei threfnu hi mewn cwilt-clytwaith o fro ôl-ddiwydiannol, anghyffredin, gyda phob math o heriau annisgwyl, dw i’n siŵr. Rydym hefyd yn byw mewn cyfnod lle rydym yn gwneud asesiadau risg o flaen llaw, gan geisio osgoi anhrefn all droi’n beryglus yn frawychus o hawdd a sydyn.
Mae gennym safleoedd posib ar hyd a lled y ddinas, wrth gwrs, gan gynnwys allan ar y caeau ger Rhosllannerchrugog, sydd, yn ôl pob sôn, wedi bod dan ystyriaeth fel safle posib. Ac ydi, mae Rhosllannerchrugog yn rhan o ddinas Wrecsam, gan taw sir Wrecsam gafodd statws dinas, nid dim ond y dref.
Ac wrth gwrs, wedyn mae yna Erddig, un o wardiau etholiadol Wrecsam, sy’n cynnwys coedwig a chaeau Erddig, a hyd yn oed Plasty Erddig (ie wir, Erddig yw enw’r ardal gyfan, nid dim ond y plasty!) A’r si erbyn hyn yw taw yn Erddig y bydd y safle.
Os felly, nid yw’n syndod fod yna bentwr enfawr o waith papur i’w lenwi a’i lofnodi er mwyn sicrhau defnydd teg, gwyrdd, di-ddinistr o’r tir a bywyd natur prydferth draw yn y goedwig brydferth, heb sôn am y tir amaeth sydd ene – lle fydd y gwartheg a’r defaid yn mynd, tybed?!
Fedra i ddim ond dychmygu faint o gyfarfodydd a sgyrsiau hir, dwys sydd wedi cael eu cynnal, wrth iddyn nhw geisio bachu’r safle. Ar ben hynny, mae’r cloc wedi bod yn tician, a lot o bwysau yn dŵad o bob cyfeiriad – gan gynnwys ni ddarpar-eisteddfotwyr sydd mo’yn dechrau trefnu llety i ni ein hunain.
Felly, dw i yn teimlo bod angen rhoi brêc bach i’r criw trefnu, a dw i ddim am gwyno bellach; fe ddaw y datganiad pan ddaw, a chyn belled nad yw hi yng nghanol y ddinas, mi fyddaf innau yn fodlon fy myd.
Fy mreuddwyd Erddigaidd
Mi rydw innau, wrth gwrs, wedi bod wrthi’n ymgyrchu ers meitin i gael yr Eisteddfod yn Erddig, a hynny achos mae’n safle mor berffaith – coedwig hudolus lai na dwy filltir o ganol y ddinas, lle gewch chi well?!
Daeth y podlediwr Israel Lai draw i Wrecsam gwpwl o wythnosau yn ôl a wneuthum gwrdd yn Nhŷ Pawb, a chrwydro o gwmpas, gweld y Saith Seren, mynd i Eglwys y Plwyf, cyn gyrru deuddeg munud allan i galon y goedwig, ac eistedd wrth fwrdd picnic tu fa’s i’r plasty i wneud ein sgwrs i’r podlediad ‘Doctoriaid Cymraeg’! A synnodd ein gwestai arbennig pa mor agos oedd cefn gwlad i ganol y ddinas – doedd o erioed wedi gweld ffasiwn beth!
‘Nôl yn steddfod Pontypridd, fues wrthi’n sgwrsio hefo’r bardd Siôn Aled Owen am fabwysiadu enw artist / llwyfan / nom de plume fysa’n haws i bobol ei gofio na fy enw triphlyg, sawl-sill, sydd yn drysu pobol hefo enw cyntaf sydd angen ynganiad Cymraeg, tra bod fy nghyfenw yn deillio o air Saesneg.
Gan gymryd ysbrydoliaeth gan un o fy arwyr, Iwan Bala, synfyfyriais ar enwau ddaw o’r tirlun o’m cwmpas – ‘Sara Clwyd’, ar ôl yr hen sir oedd yn cwmpasu’r gogledd-ddwyrain yn gyfan, efallai? Mi fysa hynny’n sicr yn adlewyrchu fy nheimlad o hunaniaeth a pherthyn, tra’n dangos fy ngwrthwynebiad i’r pleidgarwch mewnblyg ddaeth wrth i’r llinellau newydd yn y tir grebachu dalgylch pob cymuned.
Ond yna rhoddais gynnig ar ‘Sara Erddig’, gan taw dene yw bro fy mebyd go iawn. Ac mi ddywedodd Siôn yn syth taw dyna oedd o yn ei hoffi orau. A gyda hynny, ail-enwais fy hun mewn modd oedd hefyd yn teimlo fel naid i’r tywyllwch, wrth gyfuno fy nyhead am leoliad yr Eisteddfod, gyda fy nhaith bywyd bersonol.
Dw i’n coelio mewn tylwyth teg
Ac mae hyn oll yn dod â chwedl tylwyth teg Peter Pan i’r meddwl – dameg rwy’n dychwelyd ati dro ar ôl tro am ryw reswm, gan gynnwys wrth synfyfyrio am Eisteddfod Wrecsam.
Yn wir, os dw i’n canolbwyntio’n ddigon caled, daw gweledigaeth i mi – o steddfotwyr yn ymgynnull yn y llwyn, ac yn crwydro trwy’r caeau a’r coed – a hyd yn oed y tylwyth teg mwyaf prin (sef y rhai sy’n medru’r Gymraeg) yn ymuno â ni, i ganu caneuon gwerin hen a newydd.
Ac felly, hoffwn eich gwahodd chi i gyd yn awr i ymuno â mi, wrth i mi ailadrodd drosodd a throsodd:
“Dw i’n coelio mewn tylwyth teg, ac mae gen i ffydd y cawn steddfod wych yn Wrecsam… dw i’n coelio mewn tylwyth teg, ac mae gen i ffydd y cawn steddfod wych yn Wrecsam… Dw i’n coelio mewn tylwyth teg, ac mae gen i ffydd y cawn steddfod wych yn Wrecsam…”