Yma yn Steddfod Boduan, mae yna sgyrsiau niferus am y cynlluniau at yr Eisteddfod yn Wrecsam yn 2025, a braf iawn ydy hynny.

Ond mae hi’n ymddangos taw un o’r cynlluniau sydd ar y gweill yw i’w chynnal yng nghanol Dinas-Sir Wrecsam, yn hytrach nag ar dir amaethyddol, a dwi’n ffeindio’n hun yn teimlo’n anesmwyth iawn ynglŷn â’r syniad yma.

Fedra i weld sut ddaeth y syniad i’r bwrdd trafod. Fel amlinellais yn fy ngholofn ddiwethaf, dyw’r Eisteddfod Genedlaethol, neu unrhyw Eisteddfod, o ran hynny, jyst ddim yn rhan naturiol o ddiwylliant a hunaniaeth rhan helaeth o boblogaeth Wrecsam. Ac felly, wrth geisio ei esbonio, tybiaf iddi fynd rhywbeth tebyg i hyn:

“Pa fath o beth yw’r ‘Eisteddfod?”

“Gŵyl, dathliad…ychydig fel Focus Wales…”

A dene fo wedyn, sorted! Mae yna blueprint yn barod, rhywbeth cyfarwydd, pawb ar yr un dudalen. Dyfaliad gwyllt yw hyn, wrth gwrs, o fy nychymyg i yn unig (disclaimer!), ond mae’r sawl sydd wedi crybwyll y newyddion i mi wedyn wedi dweud “fel Focus Wales“, felly mae’r cysyniadau yn barod ynghlwm.

Ond y peth yw, nid fel Focus Wales ddylie fo fod, yn fy marn fach i, ond fel… wel… Eisteddfod!

Y dryswch rhwng sws a byseg…

Mae yna drosiad, neu alegori, i bron bob sefyllfa, on’d oes? Ac wrth ystyried y sefyllfa hon, mae fy meddwl yn crwydro ’nôl i fy hoff ran o stori Peter Pan.

Mae Wendy yn dweud wrth Peter ei bod hi am roi sws iddo ac mae o, yn ei anwybodaeth, yn rhoi ei law allan i ddisgwyl am yr anrheg. Felly mae Wendy yn rhoi byseg iddo… a byth wedi hynny, roedd Peter yn meddwl mai byseg oedd sws.

Fel yna y bydd hi, dwi’n meddwl, hefo’r Eisteddfod os ydan ni’n cael un amgen ganol dinas, yn hytrach nag un ar dir amaethyddol.

Mi fydd yn ymdoddi i’r niwl o wyliau eraill drud a ddaw i’r Ddinas-Sir, lle nad oes dewis gennych ymweld â hi – wel, oni bai eich bod chi’n fodlon osgoi eich hoff lefydd cyhoeddus eraill am wythnos.

Wel, meddech chi (efallai), onid yw hynny’n beth da, dwedwch? Serendipaidd? Pobol fysa efallai ddim yn mentro i’r Maes yn baglu mewn i’r ŵyl ar ddamwain ac efallai yn dysgu mwy am yr ŵyl, dysgu bach o Gymraeg a.y.b.?

Wel ia, ond mae pobol yn hoffi dewis, tydan? Ac mae sawl un ohonom hefyd hefo defodau ac arferion rydyn ni’n eu mwynhau, megis picio i’r dafarn leol am beint amser cinio ddydd Sadwrn, hefo dim bwriad yn y byd i ddychwelyd wedyn i ryw gig neu’i gilydd, a dim yffach o beryg ein bod ni am dalu £20 am hynny, ac yn sicr ddim jyst er mwyn cadw at ein defod giniawol Sadyrnol!

Mae Focus Wales yn grêt, ond mae’n bodoli’n barod; does dim angen un arall o’r rhain. Llawer iawn gwell fyddai defnyddio’r cyfle i gyflwyno traddodiadau a diwylliant Eisteddfodol i drigolion Wrecsam… eto, fy marn i yw hyn; difyr fyddai clywed barn pobol eraill.

Perthynas anesmwyth y Gymraeg a’r Saesneg yn Wrecsam

Rwy’n rhagweld problem arall yn codi o’r diffyg dewis hefyd. Mae’r berthynas rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn barod yn lletchwith, cymhleth, a braidd yn anesmwyth yma.

Fel rwy’ wedi’i grybwyll o’r blaen, cefais fy heclo un noson am ganu cân yn y Gymraeg yn y Saith Seren, a chlywais wedyn gan gyfaill am y cecru fu amdanaf gan ddau ddyn oedd yn teimlo fy mod yn amharu ar y noson… a hynny yn y Saith Seren!

Wrth gwrs taw eithriad yw hyn, ac mae’r trefnwyr a’r rhan fwyaf o’r bobol sy’n mynychu Jam Night wedi bod yn gefnogol iawn ohonof, gyda rhai yn dangos diddordeb yn y syniad o gyfieithu lyrics a chanu yn Gymraeg yn gyffredinol.

Ond mae’r enghraifft hyn yn dangos sut mae rhai fa’ma yn teimlo ynglŷn â’r Gymraeg. A dyma’r hinsawdd mae’r Eisteddfod yn dŵad iddi, a does yna ddim pwynt gwadu hynny na chladdu’n pennau yn y tywod.

Mae yna heriau unigryw ym mro fy mebyd, ac maen nhw’n cynnwys atgasedd tuag at, a drwgdybiaeth o’r iaith Gymraeg ei hun, ynghyd â’r awydd i gael mynd am Wrexham Lager bach tawel yn y Saith, heb dalu crocbris am fynediad.

Ffiniau’r Ddinas-Sir

Hyd yn hyn, mae pob dim am ‘Ddinas’ Wrecsam, pob dathliad a datganiad, yn weindio fyny bod yng nghanol y ddinas – sef hen ‘dref’ Wrecsam. Ond Dinas-Sir yw Wrecsam; dyna oedd y cyfiawnhad am y statws.

Mae angen i bob dim, felly, ddechrau adlewyrchu hyn a’i fod o er budd yr holl ardal a’i thrigolion, nid dim ond rheini sydd yn Tŷ Pawb a gweddill ‘y dre’. Beth am drigolion Rhosllannerchrugog, Coedpoeth, Caia, a Rhosymedre?

Na, na, Steddfod yn y caeau dwi mo’yn ei gweld. Un sy’n cynnwys yr holl ardal a’i chymuned.