Mewn rali ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan heddiw (dydd Mercher, Awst 9), mae Cymdeithas yr Iaith wedi adnewyddu eu galwadau am Ddeddf Eiddo.
Fe wnaeth torf ymgynnull o flaen pabell Llywodraeth Cymru er mwyn clywed areithiau gan Walis George o Gymdeithas yr Iaith, y cyn-ymgeisydd Llafur Cian Ireland, ac arweinydd Cyngor Sir Gâr Darren Price.
Bu’r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis yn ymprydio am 75 awr cyn y rali er mwyn “dangos difrifoldeb” y sefyllfa dai, a chafodd sgwrs â Phrif Weinidog Cymru fore heddiw am y sefyllfa.
Wrth siarad gyda golwg360, dywedodd Mark Drakeford mai’r cam nesaf ydy “cadw llygaid fanwl ar effaith” y camau sydd eisoes wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng cartrefi – camau sy’n cynnwys rhoi’r grym i gynghorau osod premiymau treth cyngor o 300% ar dai gwag ac ail gartrefi ers Ebrill eleni.
Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys cyflwyno Papur Gwyn ar Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg, ac mae Cymdeithas yr Iaith eisiau iddyn nhw ddefnyddio’r cyfle i sicrhau bod y farchnad yn cael ei haddasu ar gyfer dibenion cymdeithasol.
‘Tegwch cymdeithasol’
Wrth egluro galwadau Cymdeithas yr Iaith, dywed Walis George “nad ydy’r farchnad rydd yn gweithio i’r mwyafrif o bobol Cymru”.
“Be rydyn ni’n ei weld ydy’r angen i drawsnewid y system dai sydd gennym ni,” meddai wrth golwg360.
“Ers 40 mlynedd a mwy rydyn ni wedi cael system dai sy’n seiliedig ar farchnad rydd ac yn seiliedig ar hynny rydyn ni wedi gweld bod llawer iawn o bobol dan anfantais.
“Dyna pam bod gennym ni bron i 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol.
“Ar hyn o bryd, mae gennym ni 10,500 o bobol yn byw mewn llety dros dro, yn cynnwys 3,000 o blant.
“Mae gwaith mae Cyngor Gwynedd wedi’i wneud yn ddiweddar iawn yn dangos bod 65% o boblogaeth y sir wedi cael eu prisio allan o’r farchnad.
“Dydy’r system farchnad rydd ddim wedi gweithio i’r mwyafrif o bobol Cymru.
“Felly rydyn ni am weld system sy’n seiliedig fwy ar degwch cymdeithasol, bod tai yn cael eu gweld fel cartrefi ac angen hanfodol yn hytrach na chyfle buddsoddi neu ased.”
Mae eu galwadau nhw’n cynnwys gosod amodau ar brynu, gwerthu a gosod tai fel bod pobol leol yn cael cyfle cyntaf, ynghyd â gweld y system gynllunio’n cael ei harwain gan asesiad o anghenion lleol.
‘Cartrefi nid asedau’
Dywed Ffred Ffransis ei bod hi’n bwysig iawn i Gymru gyfan weithredu ar frys nawr er mwyn cael rheolaeth dros y sefyllfa dai.
“Mae angen Deddf Eiddo yma yng Nghymru fel ein bod ni’n trin tai fel adnoddau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid adnoddau ariannol i wneud elw,” meddai wrth golwg360.
“Chwarae teg i Mark Drakeford, bu iddo aros i siarad gyda fi bore yma.
“Roeddwn i’n dweud wrtho fo y gallai Cymru roi arweiniad i’r byd mewn cyfiawnder cymdeithasol.
“Mae hyn yn gwbl hanfodol i ddyfodol y Gymraeg.”
Mae Ffred Ffransis yn gofyn i eraill sy’n cefnogi’r achos bwyso ar eu Haelod o’r Senedd, y Prif Weinidog, a Gweinidogion y Gymraeg a’r Hinsawdd.
“Mae’r Llywodraeth wedi cymryd camau pwrpasol iawn, fe wnâi dalu teyrnged iddyn nhw, ac i’w partneriaid nhw gyda Chytundeb Cydweithio Plaid Cymru, gyda’r grymoedd newydd i reoli gormodedd ail gartrefi a llety gwyliau,” meddai.
“Ond gwneud y broblem yn waeth mae ail gartrefi a llety gwyliau, nid nhw yw gwreiddyn y broblem.
“Gwreiddyn y broblem yw’r farchnad agored. Mae pobol yn cael tai yn ôl faint o arian sydd gyda nhw ac nid faint o angen sydd arnyn nhw.”
‘Dim lot o obaith byw yn yr ardal’
Un sy’n pryderu am allu ei genhedlaeth i brynu tai yn eu cynefin ydy Jac, sy’n 20 oed ac yn dod o Dregaron.
“Dw i wedi dod heddiw i ymuno efo gorymdaith Cymdeithas yr Iaith achos dw i’n gweld mwy a mwy o dai yn fy ardal i yng Ngheredigion yn troi yn ail dai a thai haf, a gyda hynny dw i’n gweld prisiau tai’n mynd lan a does dim lot o obaith, fel mae’n sefyll nawr, i bobol oedran fi allu byw yn yr ardal,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r un peth yn digwydd ar hyd y wlad, rydyn ni’n mynd i orfod symud i lefydd eraill a gyda hynny rydyn ni’n colli’r iaith Gymraeg ac mae e’n troi mewn i gylch.
“Rydyn ni’n gweld colli’r Gymraeg yn y sir drwy’r Cyfrifiad 2021, ac mae angen Deddf Eiddo fel bod hi’n bosib sortio’r sefyllfa dai fel ein bod pobol ifanc yn gallu aros mewn cymunedau ar hyd Cymru, ac i sicrhau bod yr iaith dal i fynd yn ein cymunedau ni.”
Mae Iolo hefyd yn 20 oed ac yn dod o Ddolgellau.
“Dw i wedi dod i weld rali Cymdeithas achos mae o’n beth normal i fod eisiau i bobol allu byw yn eu hardal eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain,” meddai.
“Mae o’n hanfodol.”
‘Cadw llygaid ar yr effaith’
Dywedodd Mark Drakeford wrth golwg360 ei fod wedi bod yn trafod y camau mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa gyda Ffred Ffransis.
“Rydyn ni wedi gwneud lot o bethau mewn maes sy’n eithaf cymhleth,” meddai.
“Cefais i gyfle i siarad gyda Ffred a grŵp o bobol ifanc o Nefyn yma yn Llŷn a jest esbonio’r pethau rydyn ni’n trio eu gwneud yn y maes trethi a’r maes cynllunio – pethau i adeiladu fwy o dai fforddiadwy i bobol, i dynnu adeiladau gwag yn ôl i bobol eu defnyddio.
“Rydyn ni jyst wedi gorffen rhoi’r pecyn yna yn ei le.
“Y peth nesaf yw jest i gadw llygaid manwl ar effaith beth sydd yna’n barod.
“Ar ôl hynny, wrth gwrs, rydyn ni’n agored i glywed posibiliadau eraill.
“Ond, dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i jyst aros am sbel i weld ble mae’r pethau rydyn ni wedi eu gwneud yn barod yn llwyddo a ble mae pethau doedden ni ddim yn eu disgwyl wedi codi.
“Ar ôl hynny, fedrwn ni edrych i weld a oes pethau gallwn ni eu gwneud ar ben hynny.”