Mae’n rhaid “ymladd yn erbyn y demtasiwn” i sefydlu pob busnes a menter newydd yng Nghaerdydd, meddai’r canwr a’r ymgyrchydd Dafydd Iwan.
Wrth sgwrsio yn y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg ar Faes yr Eisteddfod ym Moduan am ei brofiad yn sefydlu a datblygu cwmni Sain, dywedodd nad oes yna reswm nad oes modd sefydlu cwmniau tu allan i’r brifddinas yn sgil datblygiadau technolegol newydd.
Tra’n cael ei holi gan Edward Jones o Brifysgol Bangor, bu’n sôn am sut y bu i’r cwmni, gafodd ei sefydlu yng Nghaerdydd yn wreiddiol, symud i Landwrog yn Arfon.
Bu’n sôn hefyd am ddylanwad cadarnhaol y cyfryngau digidol ar gerddoriaeth Gymraeg, a’r angen am Ddeddf Eiddo.
“Mae’r demtasiwn o roi popeth yng Nghaerdydd yn demtasiwn go iawn o hyd, ond mae’n rhaid i ni ymladd yn erbyn y demtasiwn yna,” meddai Dafydd Iwan.
“Does yna ddim rhewm bellach, yn enwedig efo’r cyfryngau newydd, pam na allwch chi sefydlu unrhyw beth tu allan i Gaerdydd ac yng nghefn gwlad Cymru.
“Mae o’n dechrau digwydd, mae pobol yn medru byw bellach yng Ngwynedd neu Gaerfyrddin a gweithio yng Nghaerdydd, ond maen nhw’n gweithio o adre’.
“Yn fwy na hynny, mae’n bwysig ein bod ni’n sefydlu gwaith tu allan.
“Yn y pen draw, os wnawn ni gario ymlaen i orddatblygu Caerdydd a llefydd tebyg, rydyn ni’n creu bob math o broblemau aruthrol o safbwynt yr amgylchedd, traffig, iechyd meddwl…
“Drwy ddatblygu’n raddol yn yr ardaloedd gwledig, nid yn unig mae gennym ni siawns i wneud y Gymraeg yn greiddiol i’r busnesau yma ond maen nhw’n mynd i helpu datblygiad mwy cytbwys yng Nghymru.”
Credu mewn Deddf Eiddo
Astudiodd Dafydd Iwan am radd mewn pensaerniaeth am chwe blynedd, a bu’n siarad hefyd am sut roedd y radd o fantais iddo wrth fynd ati i sefydlu cymdeithas Tai Gwynedd yn 1971.
“Un peth creiddiol i Dai Gwynedd ers y dechrau ydy nad oes angen codi tai newydd ond defnyddio’r adeiladau sydd gennym ni yn well,” meddai.
“At ei gilydd, yn y rhan fwyaf o ardaloedd nid prinder tai sydd gennym ni ond defnydd anghywir o’r tai sydd yn bod.
“Mae eisiau dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, addasu adeiladau mewn ffordd greadigol.
“Mi wnaeth Thatcher y camgymeriad rhyfeddol yna o orfordi cynghorau a chymdeithasau tai i werthu eu tai cymdeithasol, nonsens. Does gennym ni ddim digon o dai ar gyfer galw cymdeithasol oherwydd ein bod ni wedi’u gwerthu nhw ac mae llawer iawn ohonyn nhw bellach yn ail gartrefi ac yn Air BnBs.
“Mae’n rhaid i ni gael rheolaeth dros ein tai, dyna pam dw i dal i gredu mewn Deddf Eiddo,” meddai cyn rali ar y maes heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 9) gan Gymdeithas yr Iaith i alw am ddeddf o’r fath.
“Chewn ni byth mohoni yn fy oes, ond mae’n rhaid cael rheolaeth dros ein tai achos cartrefi ydyn nhw, nid offer i fuddsoddi ynddyn nhw ond cartrefi i bobol.
“Os na alli di gael trefn ar ein blaenoriaeth i’r defnydd cymdeithasol yna, yna rydyn ni’n colli’n ffordd.
“Rydyn ni’n gwneud defnydd anghywir i’n tai ond diolch i Dduw mae’r Llywodraeth yng Nghaerdydd a rhai cynghorau bellach yn gweld ffyrdd y medran nhw gael rywfaint o reolaeth.”
‘Cyfle a her newydd’
Soniodd Dafydd Iwan hefyd sut y bu’n rhaid i Sain ddatblygu wrth i dechnoleg ddatblygu, ac wrth i feinyls droi’n gasetiau, casetiau’n CDs, a CDs yn blatfformau ffrydio.
“Mi ddatblygodd cyfryngau digidol a mynd allan o’n dwylo ni fel petae, ac roedd hynny’n newid y gêm yn llwyr,” meddai.
“Ond roedd rhaid symud efo’r dechnoleg.
“Ar un adeg, mae’n rhaid i fi gyfaddef, roedden ni’n meddwl y bysa’r chwyldro ddigidol yn ddamniol i’r iaith Gymraeg ond dyw hi ddim wedi bod felly.
“Mae’r dechnoleg ddigidol yn rhoi cyfle newydd i’r iaith Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill.
“Fyswn i’n mentro dweud bod mwy o wrando ar gerddoriaeth Gymraeg drwy’r cyfryngau digidol heddiw ar draws y byd na fuodd yna erioed o’r blaen.
“Felly mae o’n gyfle newydd a her newydd.”