Yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi “dyrannu symiau ychwanegol” er mwyn cynorthwyo’r Eisteddfod yn sgil yr argyfwng costau byw.

Ar Faes yr Eisteddfod, dywedodd fod y Llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau â’r Eisteddfod “beth bynnag”.

“Eleni, rydym ni wedi cynyddu’r gyllideb yn eithaf sylweddol ac ar ben hynny wedi dyrannu symiau ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr Eisteddfod yn gallu ymateb i’r argyfwng costau byw a chwyddiant,” meddai wrth golwg360.

“Felly, mae’n grêt i gael cefnogaeth Plaid Cymru i’n gwaith ni i wneud hynny.”

Daw hyn yn dilyn galwadau gan Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, fod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy er mwyn sicrhau dyfodol yr ŵyl.

“Tra bod Llywodraeth Cymru yn rhoddi peth cefnogaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol, nid yw wedi gweithredu’n llawn ar yr argymhellion wnaed gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlodd yn 2012, gan gynnwys yr angen i gynyddu’r grant refeniw a grant cyfalaf,” meddai.

“Gyda rhagor o gefnogaeth gan y Llywodraeth, gellid sicrhau dyfodol yr Eisteddfod a hefyd ei hyrwyddo’n ehangach fel gŵyl ryngwladol o bwys.”

‘Rhagolygon yn bositif’ yn y Rhondda

Bu Jeremy Miles hefyd yn siarad am bwysigrwydd yr Eisteddfod o ran hybu’r iaith mewn ardaloedd lle nad yw cyfran y siaradwyr mor uchel.

Dywedodd fod y “rhagolygon yn bositif”, yn ôl canlyniadau’r cyfrifon, gan eu bod wedi dangos twf yn y siaradwyr.

Mae’n gobeithio y bydd y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr ardal wrth arwain i fyny at yr Eisteddfod yn hwb mawr arall i’r iaith.

“Fel mae’n digwydd, yn y cyfrifiad roedd Rhondda Cynon Taf yn un o’r pedwar awdurdod lleol yng Nghymru lle’r oedd twf yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Felly, mae’r rhagolygon yn bositif ond y cyfle pwysig sy’n dod pan mae’r Eisteddfod yn mynd i ardal fel Rhondda Cynon Taf yw’r bwrlwm a’r brwdfrydedd a’r gwaith tros flwyddyn neu ddwy.

“Ynghyd a’r wythnos ar y maes mae yna lot o weithgaredd arall sy’n denu pobol at y Gymraeg a dyna dw i’n credu sydd mor gyffrous.”