Mae cydlynydd Cymdeithas y Cymod wedi codi cwestiynau am gefnogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin i’r lluoedd arfog.

Daw hyn ar ôl i’r Cyngor ennill gwobr am y gwaith hwnnw.

Yn ôl Jane Harries, mae’r wobr wedi’i rhoi am y ffordd deg mae’r Cyngor yn ymdrin â’r lluoedd arfog, ond “dylai hynny fod yr achos ar gyfer pawb”.

Mae’r awdurdod yn un o blith dim ond 17 o gyflogwyr yng Nghymru i dderbyn gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr eleni.

Mae tair lefel i’r cynllun, sef Aur, Arian ac Efydd i sefydliadau sy’n addo, yn arddangos ac yn hyrwyddo cefnogaeth i Amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Fis Gorffennaf y llynedd, ailgadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy lofnodi addewid o’r newydd i Gymuned y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd y byddan nhw’n cael parch a thegwch.

I ennill y wobr Arian, mae’n rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio.

Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw fynd ati i sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobol ym maes Amddiffyn o safbwynt Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Gall gweithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin gyflawni eu hymrwymiadau i fynychu hyfforddiant Lluoedd Wrth Gefn Ei Fawrhydi drwy ddefnyddio eu gwyliau blynyddol, absenoldeb amser hyblyg neu drwy gymryd diwrnodau ychwanegol o absenoldeb di-dâl.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyn-filwyr ac aelodau o gymuned ehangach y lluoedd arfog yn eu cynnig.

Mae’r tîm recriwtio yn gweithio’n rhagweithiol gyda Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, y Poppy Factory a’r RFEA i gael mynediad at gronfa gyflogaeth y lluoedd arfog i rannu cyfleoedd gwaith perthnasol.

Yn y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn cyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliad i aelodau o gymuned y lluoedd arfog, ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl gaiff ei hysbysebu.

Mae’r fenter hon yn fesur ychwanegol i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

‘Gwerthfawrogi’r hyblygrwydd’

Mae un milwr wrth gefn yn dweud ei fod yn “gwerthfawrogi’r hyblygrwydd” o gael gwyliau er mwyn cyflawni ei ymarfer ymfyddino blynyddol.

“Fel milwr wrth gefn, rwy’n gwerthfawrogi’r hyblygrwydd y mae fy nghyflogwr yn ei gynnig,” meddai’r milwr wrth gefn sy’n gweithio yn yr Adran Lle a Seilwaith.

“Mae fy Mhenaethiaid Gwasanaeth i gyd wedi bod yn gefnogol iawn i’m ceisiadau i gymryd absenoldeb di-dâl er mwyn cyflawni fy ymarfer ymfyddino blynyddol.

“Mae polisi Hyfforddiant y Lluoedd Wrth Gefn yn fy helpu i gael cydbwysedd da rhwng fy mywyd cartref a gwaith a gwasanaeth y Lluoedd Wrth Gefn drwy ganiatáu i mi gael gwyliau ac ati yn hytrach na gorfod defnyddio fy ngwyliau blynyddol ar gyfer hyfforddiant y Lluoedd Wrth Gefn.”

Yn ôl y Cynghorydd Philip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Drefniadaeth a’r Gweithlu, mae’n falch bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y lluoedd arfog.

“Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn y wobr Arian,” meddai.

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog gymaint ag y gallwn.

“Mae’r wobr hon yn dangos penderfyniad a gwaith caled y staff wrth symud Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ei flaen yn y Cyngor i sicrhau ein bod yn Gyflogwr sy’n Ystyriol o’r Lluoedd Arfog.

“Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â’r fenter hon, a’r cam nesaf fydd gweithio tuag at Aur!’’

Gwobrwyo meysydd gwaith eraill hefyd?

Ond yn ôl Jane Harries, dylai’r cynllun gwobrwyo fod ar gael ym mhob maes gwaith, nid dim ond yn y lluoedd arfog.

Dywed ei bod yn ddigon teg fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymdrin ag aelodau staff sy’n cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn deg, ond y dylai hyn fod yr un peth ar gyfer pawb, gan gynnwys athrawon a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Egwyddor y peth ydy bod nhw’n ymdrin ag aelodau staff sydd yn cyn aelodau’r lluoedd arfog yn deg,” meddai wrth golwg360.

“Hynny ydy, eu bod nhw’n cael eu hymdrin gyda pharch a’u bod nhw’n cael triniaeth deg.

“Byswn i’n dweud y dylai hynny fod yr achos ar gyfer pawb.

“Dydyn ni ddim yn gweld pam na ddylai hyn gael ei gydnabod ar gyfer, er enghraifft, aelodau staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu athrawon.

“Hynny yw, pam maen nhw yn cael eu trin yn wahanol, mewn ffordd?

“Er ein bod ni’n cefnogi, dylai pawb cael eu trin yn deg.

“Hynny yw’r pwynt cyntaf.

“Dydyn ni ddim yn erbyn i gyn aelodau staff y lluoedd arfog gael eu trin gyda pharch.

“Dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw gael eu trin efo amharch neu’n wahanol i bawb [arall].

“Byswn i’n dweud ei fod yn bwysig i bawb gael eu cefnogi.

“Pam ydym yn gwneud achos gwahanol i gyn-aelodau staff y lluoedd arfog?”

Cefnogi’r lluoedd arfog

Dydy Jane Harries ddim yn gyfforddus â sawl elfen o waith y lluoedd arfog, gan gynnwys recriwtio pobol ifanc dan 18 oed.

“Pryder sydd gennym ni fod hyn yn rhan o gyfamod y lluoedd arfog mae’r Sir wedi’i ail-lofnodi’n ddiweddar,” meddai wedyn.

“Mae yna rhai problemau ynglŷn â hyn, oherwydd bod y cyfamod yn golygu hyrwyddo’r hyn mae’r lluoedd arfog yn ei wneud.

“Mae hynny’n gallu codi cwestiynau weithiau ynglŷn â democratiaeth a hawliau dynol.

“Mae’n broblem os nad yw awdurdod lleol yn gallu cwestiynu’r rhain.

“Maen nhw’n rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw’n dweud, “Rydym yn cefnogi’r lluoedd arfog”, ond beth sydd yn digwydd, rydym ni wedi codi cwestiwn ynglŷn â recriwtio plant o dan 18 i’r fyddin.

“Mae hwnna yn erbyn y gyfraith ryngwladol.

“Ydy’r Sir yn dweud fod dim problem gyda nhw ynglŷn â hynny, er enghraifft, neu beth sy’n digwydd os mae cwmni lleol yn cael ei ddefnyddio i helpu cynhyrchu arfau sydd yn cael eu defnyddio mewn gwlad fel yr Yemen?

“Ydy hynny yn iawn?

“Hynny ydy, mae yna broblem os ydych jyst yn dweud, “Rydym yn cefnogi’r lluoedd arfog”.

“Ydy hyn yn gadael y rhyddid i chi allu cwestiynu pethau pan mae pethau’n gallu bod yn wrth-ddemocrataidd neu yn erbyn hawliau dynol er enghraifft?

“Y busnes yma ynglŷn â hyrwyddo’r lluoedd arfog, yn ddi-gwestiwn, yw beth fyswn i’n codi problem gyda fe, rili.”

Ysgolion heddwch

Efo pymtheg o ysgolion heddwch yn cefnogi heddwch yn sir Gaerfyrddin, mae Jane Harries yn credu y dylid hyrwyddo hynny yn lle’r wobr i’r lluoedd arfog.

“Pam ydyn ni ddim yn gallu gwneud fuss am hynny?

“Mae cynllun yng Nghymru lle mae ysgolion yn gallu mabwysiadu cynllun ysgol heddwch.

“I fod yn deg i ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, mae pymtheg ohonyn nhw wedi gwneud hynny ac yn gwneud gwaith gwych ynglŷn â hybu lles y plant, ac wedyn deall yn ddyfnach beth yw heddwch, beth yw gwerthoedd heddwch.

“Rwy’n meddwl y byddai’n dda gweld awdurdod lleol yn hybu’r rhain fel gwerthoedd.

“Fel rwy’n dweud dydy Cymdeithas y Cymod ddim am ddweud am funud na ddylai staff y lluoedd arfog gael eu trin yn deg.

“Yn amlwg, dylen nhw, fel pawb.

“Os ydym yn mynd i ddathlu rhywbeth, pam nad ydym yn dathlu bod Sir Gaerfyrddin yn cefnogi addysg heddwch?

“Ble mae hyn yn gadael pobol fel Cymdeithas y Cymod, sydd efallai am gam-feirniadu rhai polisïau?

“Mae yna gwestiynau, rwy’n meddwl.”