Mae Liz Saville Roberts a’r Arglwydd Dafydd Wigley yn galw am ddatganoli pwerau tros ddŵr i Gymru, gan rybuddio bod y “cloc yn tician” – tra bod Llywodraeth Cymru’n dweud bod ganddyn nhw “bwerau eisoes”.

Maen nhw’n awyddus i sicrhau rhagor o bwerau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau carthion mewn dyfrffyrdd, ac i helpu i leihau biliau dŵr.

Mae’r ddau yn feirniadol o’r model presennol, sy’n golygu na all Lywodraeth Cymru atal na rheoli trosglwyddiad dŵr o Gymru gan gwmnïau preifat sydd wedi’u lleoli’n bennaf yn Lloegr, ond sydd ag awdurdodaeth yn ymestyn i Gymru.

Bu’r ddau yn siarad yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mewn digwyddiad dan arweiniad Catrin Wager, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru ar gyfer sedd newydd Bangor Aberconwy.

‘Angen sicrwydd’

“Mae’r cloc yn tician, ac mae angen sicrwydd gan lywodraeth Cymru eu bod yn effro i’w cyfrifoldeb i warchod tiriogaeth a buddiannau Cymru; yn hytrach na dod i gytundeb wasaidd gyda San Steffan a chwmnïau dŵr Lloegr,” meddai Dafydd Wigley yn y digwyddiad.

“Rhaid inni gael y sicrwydd hyn rŵan, mewn du a gwyn ac yn ddi-droi nôl. Achos os bydd newid llywodraeth yn San Steffan ar ôl yr etholiad nesaf, faint allwn ni wedyn ymddiried yn y Blaid Lafur yn Senedd Cymru i warchod buddiannau Cymru pan ddônt dan bwysau gan Keir Starmer a’i griw, a fydd – unwaith eto – yn rhoi buddiannau San Steffan goruwch buddiannau Cymru?”

‘Sefyllfa gwbl annigonol’

Cyfeiriodd Liz Saville Roberts at ganfyddiadau Comisiwn Silk, oedd yn argymell datganoli dŵr yn llawn, fel sydd eisoes yn wir yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.

Roedd hefyd yn feiriniadol o Lywodraeth Cymru am ohirio datganoli’r pwerau hyn, er bod Deddf Cymru 2017 yn caniatáu eu trosglwyddo.

“A dweud y lleiaf, mae’n sefyllfa gwbl annigonol bod ein llywodraeth etholedig ein hunain yn gwrthod cyfrifoldebau dros ein hadnoddau naturiol.

“Mae methiant Llywodraeth Cymru i fynnu’r pwerau’n ffurfiol yn profi unwaith eto mai dim ond Plaid Cymru sy’n barod i sefyll dros Gymru.

“Mae’r smonach gyfansoddiadol dros ein hadnoddau naturiol yn dangos heb amheuaeth mai ffuglen yw’r syniad o Deyrnas Unedig.

“Bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau dros ddatganoli pwerau dros ddŵr yn llawn, fel bod penderfyniadau dros adnoddau Cymru yn digwydd yma yng Nghymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae gennym ni bwerau eisoes i reoli ein hadnoddau dŵr fel y gallwn ni sicrhau’r ansawdd a chyflenwad dŵr gorau wrth i ni wynebu’r argyfyngau natur a newid hinsawdd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.