Mae’r Cyngor Prydeinig yn chwilio am dri o athrawon Cymraeg i fynd i weithio yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.
Byddan nhw’n treulio naw mis yn dysgu Cymraeg mewn un o dair ysgol yn Nhrelew, Trevelin a’r Gaiman rhwng Mawrth a Rhagfyr y flwyddyn nesaf, a hynny fel rhan o Gynllun yr Iaith Gymraeg gafodd ei sefydlu yn 1997 i hybu’r Gymraeg yn y Wladfa
Mae mwy na 6,000 o siaradwyr Cymraeg yn y Wladfa, ac mae nifer ohonyn nhw’n ddisgynyddion i’r mudwyr o Gymru greodd y Wladfa yn Nyffryn Chubut ym Mhatagonia dros 150 o flynyddoedd yn ôl yn 1865.
Dan adain y rhaglen, bydd yr athrawon yn helpu i ddatblygu’r iaith ym Mhatagonia drwy gyfuniad o ddysgu ffurfiol a gweithgareddau cymdeithasol anffurfiol.
Ar hyn o bryd, mae dau o athrawon, Llinos Howells a Thomas Door, yn paratoi i deithio i’r Wladfa i dreulio’r tri mis nesaf yno, ac roedden nhw ar y Maes ym Moduan dros y penwythnos.
Bydd Thomas Door, sy’n dod yn wreiddiol o Aberpennar, yn dysgu yn Ysgol y Cwm yn Nhrevelin, Tra bydd Llinos Howells, sydd ar hyn o bryd yn athrawes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful ym Merthyr, yn gweithio yn ysgolion cynradd y Gaiman a Threlew.
‘Cysylltiad dwfn iawn’
“Mae gen i atgofion melys ers pan ro’n i’n ifanc o glywed straeon am y mudwyr cyntaf a hwyliodd o Gymru a hanes cyfoethog sefydlu’r Wladfa yn Chubut, ac mae ymweld â Phatagonia wedi bod yn freuddwyd gen i erioed,” meddai Llinos Howells.
“Rwy wedi bod yn ddigon lwcus i ymweld ddwywaith o’r blaen ac fe deimlais gysylltiad dwfn iawn gyda’r wlad a’i phobol.
“Tra bydda i allan yno, rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at hyfforddi plant ar gyfer cystadlaethau’r Eisteddfod gan ’mod i wedi cael cryn lwyddiant ym maes drama ac adrodd yn y gorffennol.
“Rwy wrth fy modd yn gweld hyder ac angerdd y plant yn tyfu a galla i ddim aros i ymroi i fy ngymuned newydd a dysgu mwy am y diwylliant a’r ffordd o fyw yno, a hefyd i wella fy Sbaeneg.”
Y Gymraeg “yn llewyrchu mewn man anghyfarwydd ac annisgwyl”
“Mae cymryd rhan yn y rhaglen yma wedi bod yn freuddwyd gen i ers sawl blwyddyn,” meddai Thomas Door.
“Cyn y pandemig ro’n i ar fy ffordd i weithio’n wirfoddol yn Ysgol y Cwm, ond yn anffodus ni lwyddais i deithio ymhellach na Buenos Aires, gan y cafodd holl deithiau hedfan mewnol ac allanol y wlad eu canslo.
“Rwy’n gobeithio y bydd y profiad hwnnw wedi cyfoethogi fy sgiliau dysgu a fy mhrofiadau bywyd.
“Mae gweld diwylliant Cymru yn llewyrchu mewn man anghyfarwydd ac annisgwyl yn rhywbeth y byddwn, fel llawer o Gymry eraill dw i’n siwr, yn dwlu ei weld a’i brofi.
“Fe hoffwn ehangu fy ngorwelion a phrofi ffordd wahanol o fyw, a throchi fy hun mewn diwylliant arall – un sydd ag elfennau cyfarwydd a dieithr.
“Mae fy nghariad yn dod o Buenos Aires, ac felly dros y saith mlynedd diwethaf rwy wedi tyfu’n Archentwr rhan-amser, felly rwy’n gyfarwydd â llawer o’r diwylliant yn barod.
“Rydyn ni’n rhan o gylch o gyfeillion Archentaidd yma yng Nghymru – dyn ni’n cwrdd yn gyson i gael asados (barbeciws) ac yfed mate (diod) a chael meriendas (te pnawn).
“Rwy’n teimlo’n gyffrous ’mod i’n cael cyfle i fyw y tu hwnt i ffiniau fy mywyd arferol, a chael dysgu mwy o ‘español rioplatense’ (Archenteg Sbaenaidd).
“Rwy eisiau cyfrannu i fywyd Trevelin ac Ysgol Y Cwm a helpu i greu profiadau positif i’r plant a’r trigolion lleol.”
Cefnogaeth
Mae Marian Brosschot o Fotwnnog yn rhoi cefnogaeth i athrawon y prosiect.
Cymerodd hi ran yn y rhaglen yn 2020, ond oherwydd pandemig Covid-19 bu’n rhaid iddi wneud y rhan fwyaf o’i gwaith dysgu ar-lein.
Bellach, mae’n datblygu adnoddau digidol yma yng Nghymru ar gyfer y rhaglen, ac mae hi hefyd yn creu ei fideos YouTube ei hun i helpu pobol i ddysgu Cymraeg drwy gyfrwng y Sbaeneg.
“Fe es i fyw yn Nhrelew ym mis Chwefror 2020, rhyw fis yn unig cyn i’r cyfnod clo ddechrau yn yr Ariannin,” meddai.
“Fe lwyddais i gynnal un wers mewn ystafell ddosbarth cyn i bopeth symud ar-lein.
“Wrth gymryd rhan yn y rhaglen bu’n rhaid i mi dyfu’n berson llawer mwy hyblyg, ac roedd yn rhaid i mi feddwl ar fy nhraed a delio gyda heriau wrth iddyn nhw godi.
“Fe wnes i ddysgu llawer am dechnoleg hefyd a sut i’w ddefnyddio i gysylltu â phobol a’u helpu i ddysgu.
“Un o’r pethau a wnaeth fy synnu fwyaf am yr amser a dreuliais allan yno oedd pa mor gartrefol yr oeddwn yn teimlo.
“Roedd pobol yn garedig, yn agored, ac yn chwilfrydig.
“Er eich bod ar ochr draw’r byd, mae’n deimlad mor braf i fod yng nghwmni pobol sy’n siarad Cymraeg.
“Mae llawer o bobol yn angerddol iawn am ddysgu Cymraeg gan eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i’r bobol a ddaeth yma o Gymru, ac mae ganddynt deimladau cryf am adfer y Gymraeg i fywydau eu teuluoedd.
“Maen nhw’n cofio eu neiniau a’u teidiau yn defnyddio geiriau Cymraeg ac mae hynny’n creu cysylltiad emosiynol cryf iawn â’r iaith.
“Mi faswn i’n deud wrth unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i’r rhaglen i fynd amdani.
“Er y gall meddwl am y peth godi braw arnoch, mae’n rhaglen mor gyffrous i gymryd rhan ynddi ac yn brofiad gwych i fyw yn gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Sbaeneg heb fawr angen am Saesneg.”
Ymgeisio
Mae ceisiadau ar gyfer Cynllun yr Iaith Gymraeg ar agor tan Hydref 9.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn £750 y mis, a llety am ddim, costau teithio ac yswiriant iechyd.
“Rydyn ni’n falch iawn i agor ceisiadau ar gyfer Cynllun Yr Iaith Gymraeg 2024,” meddai Ruth Cocks, Cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig Cymru.
“Mae’n gyfle anhygoel i athrawon gyfrannu i gyfnewid diwylliannol rhwng Cymru a Phatagonia a hybu dysgu Cymraeg yn y Wladfa.
“Ers y pandemig, mae wedi bod yn fwy anodd i recriwtio ar gyfer y rhaglen, ac felly fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n angerddol am ddysgu Cymraeg i wneud cais.
“Mae’r rhaglen nid yn unig yn parhau i gryfhau’r cysylltiad rhwng Patagonia a Chymru ond mae hefyd yn cynnig cyfle unwaith mewn oes a gwirioneddol unigryw i’r rheini sy’n cymryd rhan.”