Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu Cronfa Llŷr fel rhan o gydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor a theulu Dr Llŷr Roberts, fu farw’n 45 oed ym mis Mehefin.
Bydd yr arian gaiff ei godi’n mynd tuag at gefnogi myfyrwyr addysg uwch â’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Roedd Dr Llŷr Roberts yn un o’r darlithwyr cyntaf mewn swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg, ac aeth yn ei flaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac i genhadaeth ehangach y Coleg dros y blynyddoedd, a hynny fel addysgwr, awdur a chyfathrebwr.
Fel darlithydd cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes, derbyniodd ganmoliaeth genedlaethol am ei waith, a llynedd fe enillodd wobr ‘Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol’ gan y Coleg am ddatblygu’r e-lyfr cyntaf yn y maes marchnata yn yr iaith Gymraeg.
‘Ysbrydoliaeth’
“Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i’w gydweithwyr ac i’w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl,” meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg, am Dr Llŷr Roberts, ei gydweithiwr am fwy na degawd.
“O fewn cymuned y Coleg, roedd y newyddion am ei farwolaeth sydyn yn anodd iawn i’w ddirnad; mae nifer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr ond mae sefydlu’r gronfa hon yn rhoi cyfle i ni sianelu’r golled honno i rywbeth cadarnhaol fydd yn cefnogi myfyrwyr.
“Dwi’n ffyddiog y byddai Llŷr wedi bod yn falch o hynny.
“Rydyn ni’n ddyledus iawn i deulu Llŷr am eu cefnogaeth tuag at y Coleg ar adeg mor anodd, a hefyd i Brifysgol Bangor a’r Eisteddfod Genedlaethol sydd hefyd wedi colli ffrind a chydweithiwr annwyl iawn.”
‘Argraff fawr mewn amser byr’
“Fel teulu, dymunwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am sefydlu cronfa i gofio Llŷr,” meddai ei chwaer Lowri Gwyn.
“Roedd Llŷr yn fab, brawd ac yncl annwyl ac arbennig iawn.
“Mae’n gysur gwybod bod ei gydweithwyr, ei fyfyrwyr a’i ffrindiau hefyd yn meddwl y byd ohono.”
Yn ôl Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwar ym Mhrifysgol Bangor, “mewn amser byr, gwnaeth Llŷr argraff fawr ym Mhrifysgol Bangor”.
“Roedd ei ofal dros ei fyfyrwyr a’i sêl dros addysg Gymraeg yn amlwg i bawb.
“Mae’n briodol iawn felly bod y gronfa hon yn cefnogi’r hyn oedd mor agos at ei galon.”