Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi digwyddiad rhyngwladol pwysig heddiw (dydd Mercher, Awst 9), gan roi dimensiwn newydd i’r ymgyrch Nid Yw Cymru Ar Werth.

Bydd baner newydd yn ymddangos yn dwyn y geiriau “Visca Barcelona – Cymru am byth”.

“Byddwn yn dangos yn y rali nad ydym ar ein pennau ein hunain yng Nghymru yn y frwydr i sicrhau fod polisiau tai yn ateb anghenion cymunedau lleol yn hytrach na bod yn fodd i greu elw i fuddsoddwyr,” meddai Walis George o Gymdeithas yr Iaith.

“Ledled Ewrop, mae pobloedd yn poeni am ddyfodol eu cymunedau, a bydd gyda ni gyhoeddiad o bwys yn y rali.”

Deddf Eiddo a’r farchnad dai mewn gwledydd eraill

Y llynedd, fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith lunio cynigion ar gyfer Deddf Eiddo fyddai’n rheoleiddio’r farchnad dai.

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i greu Papur Gwyn ar Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn edrych ar enghreifftiau o ymyraethau sy’n cael eu defnyddio mewn gwledydd eraill sy’n wynebu problemau tai tebyg.

Wrth annerch y rali, bydd Walis George yn cyfeirio at yr hyn sy’n digwydd yn Barcelona yn benodol i fynd i’r afael â phroblemau tai.

Yn siarad wrth Stondin y Gymdeithas am 2yh fydd Rhys Tudur ac Elin Hywel, cynghorwyr sir yng Ngwynedd, cyn i’r dorf orymdeithio i stondin y Llywodraeth erbyn tua 2.20yp.

Yno, bydd y siaradwyr yn cynnwys Catrin O’Neill, y gantores ac ymgyrchydd gyda Siarter Cartrefi Cymru, y cyn-ymgeisydd Llafur dros Ddwyfor-Meirionnydd Cian Ireland, arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin Darren Price, a chyn-Brif Weithredwr Grŵp Tai Cynefin Walis George.