Dydd Gwener, Rhagfyr 13
7yb: Prysur! Prysur! Prysur! Dyma’r math o feddyliau sydd yn gwibio trwy fy mhen wrth i mi agor fy llygaid. Dw i’n sbïo ar nenfwd fy llofft wrth geisio cael trefn arnyn nhw – Ah! Bydd, mi fydd heddiw yn arbennig o brysur…!
Neidio allan o’r gwely ac i mewn i’r gawod. Wrth siampŵio fy ngwallt, dechrau hwmian y dôn dw i wedi’i dewis i osod fy ngeiriau fy hun iddi, sef y dôn gaiff y gân ‘O am fywyd o Sancteiddio’ ei chanu iddi gan amlaf.
Nôl yn fy llofft, dw i’n rhwbio fy ngwallt gwlyb gyda lliain, a chwarae’r fideo ohoni ar Youtube; ydy, mae hon yn ddewis doeth o ran alaw, gan fod yna sgôp i ruthro sillafau yma ac acw, fel yn y gwreiddiol.
Dw i’n estyn fy llyfr nodiadau o ddydd Llun ac yn sbïo ar yr hyn roeddwn wedi llwyddo i’w gofnodi wrth wylio’r ffilm The Exquisite Corpse roedden ni i gyd wedi bod yn gweithio arni. Troi’r tudalennau nes cyrraedd y rhai mwyaf blêr, sy’n llawn allweddeiriau roeddwn wedi eu nodi dros y pedwar diwrnod diwethaf yma, wrth geisio llunio fy ‘ymateb creadigol’ i’w pherfformio heno.
1.15yp: Wel, mae’n amrwd, ac mae’n debyg fod yna gamacennu ynddi drwyddi draw, ond mae gen i gân sy’n cyffwrdd ar bob rhan o’r prosiect, a medraf ei pherfformio heno ‘ma; y pryder mwyaf sy’ gen i rŵan yw sut i ynganu ‘Minas Gerais’, ‘Xingu’, a ‘Waura’!
Yn frysiog, dw i’n rhoi’r gân trwy Google Translate, ac yna’n twtio ychydig ar y Saesneg nes ei bod yn gwneud rhyw fath o synnwyr, cyn anfon yr holl beth dros Whatsapp at drefnwyr y noson a’r cyfieithydd.
Plygio’r gliniadur i mewn i adnewyddu’r batri wedyn, ac i ffwrdd â fi lawr grisiau i gael mecryll a’r dôst, cyn dychwelyd at y gliniadur am rownd dau!
1.45yh: Mae gen i golofn fach ddireidus mewn golwg i golwg360 y tro hwn! Mae hi’n cyfuno fy hoffter o onomasteg, hanes Wrecsam, a barnu a chwyno am ddiffyg cynllunio gofalus, a’r anhrefn sy’n dilyn! Mae hi wedi bod yn dawnsio trwy fy mhen ers diwrnodau… ond nawr mae’n rhaid ei hannog i eistedd yn dwt ar y tudalen!
4.30yh: Reit, ar ôl pob math o darfu annisgwyl a phlagus, mae gen i golofn ac rwy’n ei fyny-lwytho i wefan golwg360; roedd gen i syniad i wneud sgets SimCity-aidd i fynd hefo hi, ond does dim amser, felly dw i’n ei pharu hefo’r sgets o ddinas-sir Wrecsam sy’n barod yn y system – a dw i’n hapus hefo hi!
Ffwrdd â fi i geisio gwisgo’n smart ond yn gynnes… dw i’n cyfaddawdu hefo top thermal o dan ffrog haf, hefo bŵts cynnes, a chardigan hefo hood blewog.
5.15yh: Dw i’n neidio yn y car ac yn gyrru draw i faes parcio Byd Dŵr Wrecsam.
6.50yh: Dw i’n parcio, yn brwydro hefo’r peiriant tocynnau, ac yna’n rhuthro draw i fy hoff siop kebab i ‘mofyn ciw iâr tikka hefo reis a dw mynd ag o i Dŷ Pawb… lle rwy’n gweld bod y stondinau bwyd dal ar agor – damia! Fyswn wedi gallu prynu fy tikka fa’ma!
Yn y cyfamser, rwy’ wedi taro i mewn i Melys Edwards, un o’r perfformwyr eraill, ac mae Joe hefyd yn ymuno â ni. Rydyn ni i gyd wedyn yn mynd draw i’r stafell ‘berfformio’, lle rydyn ni’n paratoi at y digwyddiad.
7.30yh: Mae’r digwyddiad yn dechrau ac mae’n hyfryd, difyr a swreal bod ar Zoom hefo perfformwyr draw ym Mrasil, gan gynnwys pobol y Waura sy’n byw ar lannau’r Xingu. Dwi dal wrthi’n prosesu’r noson!
Rywbryd wedi’r digwyddiad – tua 10.30yh, dw i’n meddwl – dw i’n gadael Tŷ Pawb gyda chriw o’r digwyddiad, ac yn sidro beth i’w wneud nesaf – dw i dal yn llawn egni, ac mi wn fod yna noson meic agored ymlaen yn nhafarn ‘The Drunk Monk’ i lawr y stryd…
Rwy’n cyrraedd ac mae’r noson dal yn ei hanterth! Mae Andy Hickie, trefnwr y noson, yn fy nghyfarch, a chyn pen dim rwy’n cael cyfle i ganu ‘American Pie’ a ‘Those were the days’. Wrth i mi ganu, mae Melys a’i ffrind yn cyrraedd, ac mae hwythau yn perfformio rhai caneuon.
Ac, fel crescendo creadigol i fy niwrnod prysur, mae Melys yn gofyn i mi ac Andy ymuno â nhw ar y llwyfan, i berfformio rhywbeth cwbl fyrfyfyr yn y Gymraeg… a hyn yn arwain at sawl ‘cân’ wahanol, cyn cyd-ganu ‘Mi welais Jac y do’ hefo hogan o’r gynulleidfa sydd wedi cyffroi wrth glywed y Gymraeg am y tro cyntaf ers blynyddoedd – a dyma un o’r unig ganeuon mae hi’n eu cofio!
12.15yh – Rwyn cyrraedd adref ac yn gwneud siocled poeth i fi a’r gŵr, gan ryfeddu at fy niwrnod ‘deinamig’!
Y saib
Wrth weithio fel ymarferydd creadigol llawrydd, mae’n reit gyffredin i rai diwrnodau fynd yn andros o brysur fel hyn, wrth i brosiectau a rolau cyffrous orgyffwrdd. Cefais sawl diwrnod fel hyn ar drothwy’r Dolig.
Ond yna, wrth gwrs, daw’r ŵyl â rhyw fath o saib… rhywbeth rwy’n manteisio arni i ddal fyny hefo pob dim sydd angen ei wneud!
A dyma le rydw i, felly, yn y saib bach rhyfedd rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, lle nad yw’n glir beth ddylwn i fod wrthi’n ei wneud; dyma geisio llunio colofn, gan obeithio y bydd yn eich difyrru, gan roi mewnwelediad i ddiwrnod cyffredin, wrth i mi ‘fyw fy mywyd gorau’ yn gwneud pob math o bethau creadigol!