Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm ar Ddydd Calan (dydd Mercher, Ionawr 1).

Gallai cyflymdra’r gwynt gyrraedd hyd at 75m.y.a, ac mae disgwyl hyd at 40mm (1.6 modfedd) o law ar dir isel, a hyd at 80mm (3.2 modfedd) ar y bryniau.

Mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 65m.y.a. ar yr arfordir a’r bryniau.

Mae’r rhybudd am law mewn grym rhwng 9yb a 9yh, a’r rhybudd am wyntoedd cryfion rhwng 9 o’r gloch fore Mercher a 6 o’r gloch fore Iau (Ionawr 2) ar gyfer ugain o awdurdodau lleol Cymru.