Mae elusen achub anifeiliaid wedi diolch i’r actores Joanna Page am swm sylweddol o arian i helpu eu gwaith.
Wrth ymddangos ar y rhaglen Wheel of Fortune ar ITV, enillodd y Gymraes, fu’n serennu yn y gyfres Gavin & Stacey, gyfanswm o £34,950 i Many Tears Animal Rescue.
Mae’r elusen yng Nghefneithin yn disgrifio’u hunain fel sefydliad sy’n dod o hyd i gartrefi newydd i gŵn, cathod ac anifeiliaid eraill ledled y Deyrnas Unedig.
Gan ddyfynnu Stacey, sef cymeriad Joanna Page, maen nhw wedi disgrifio’i buddugoliaeth fel “lush, proper lush“, gan ychwanegu y bydd yr arian “yn gwneud byd o wahaniaeth i’r holl gŵn” maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.
Yn sgil ei llwyddiant, maen nhw’n dweud bod Joanna Page wedi creu Nadolig “crackin’” iddyn nhw, a’u bod nhw’n “chuffed“.