Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi digwyddiad argyfyngus.
Mae hyn o ganlyniad i’r galw eithriadol o uchel am wasanaeth 999 ac oedi mawr mewn ysbytai.
Mae mwy na 340 o alwadau heb eu hateb, ambiwlansys yn aros tu allan i ysbytai, a chleifion yn aros i dderbyn gofal.
Mae mesurau ychwanegol ar waith er mwyn ceisio lleihau’r pwysau ar wasanaethau a sicrhau bod modd cynnal y gwasanaethau hynny.
Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn rhybuddio mai dim ond os oes yna fywyd yn y fantol y dylid ffonio 999.
‘Nid dyma’r lefel o wasanaeth yr ydym am ei ddarparu’
“Anaml iawn y byddwn yn datgan digwyddiad critigol, ond gyda galw sylweddol ar ein gwasanaeth a mwy na 90 o ambiwlansys yn aros i drosglwyddo cleifion y tu allan i’r ysbyty, effeithiwyd ar ein gallu i helpu cleifion,” meddai Stephen Sheldon, Pennaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Yn anffodus, mae hyn yn golygu y bydd rhai cleifion yn aros yn hirach i ambiwlans gyrraedd ac i’w galwadau gael eu hateb.
“Am hynny, mae’n ddrwg iawn gennym oherwydd nid dyma’r lefel o wasanaeth yr ydym am ei ddarparu.
“Rydym yn deall bod hyn yn rhwystredig i gleifion, ond gallwn eu sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leddfu’r pwysau ar ein gwasanaeth.
“Gall y cyhoedd helpu trwy ffonio 999 dim ond mewn achos o argyfwng sy’n bygwth bywyd – hynny yw ataliad y galon, poen yn y frest neu anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, neu waedu trychinebus.
“Os nad yw’n argyfwng sy’n bygwth bywyd, yna mae’n bwysig eich bod yn defnyddio un o’r dewisiadau amgen niferus i 999, gan ddechrau gyda’r gwirwyr symptomau ar ein gwefan Gwasanaeth Iechyd Gwladol 111 Cymru yn ogystal â’ch meddyg teulu, fferyllydd, ac Uned Mân Anafiadau.
“Rhaid i ni amddiffyn ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.
“Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith gwych o dan amgylchiadau anodd, ac ni allwn ddiolch digon iddynt am eu gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn ar draws y gwasanaeth iechyd.”